Logo Byw Dysgu Cymraeg

Dan Embargo 00.01 Dydd Gwener 13 Mawrth 2015

Gwefan newydd Cymraeg i gynorthwyo a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg

 

Heddiw mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi lansio gwefan newydd ‘Cymraeg’ ac yn annog pobl Cymru gyfan i ddefnyddio’r safle er mwyn dysgu, defnyddio a mwynhau’r iaith fel rhan o’u bywyd bob dydd – beth bynnag yw lefel eu Cymraeg.

 

Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg – gyda’r teulu, gyda phlant a phobl ifanc yn eu harddegau, ac yn y gweithle.

 

Mae’n cynnwys adnodd newydd, y cyntaf o’i fath, sy’n gallu chwilio am ddigwyddiadau Cymraeg ym mhob rhan o Gymru, mae’n tynnu sylw at ap Cymraeg bob wythnos ac mae’n dod o hyd i gyrsiau, gan restru pob cwrs Cymraeg i Oedolion. Mae’r wefan hefyd yn gweithredu fel porthol sy’n cysylltu â gwefannau eraill sy’n cynnig gwasanaethau Cymraeg defnyddiol yn ogystal ag adnoddau digidol Cymraeg.

 

Gwefan ‘Cymraeg’ (www.llyw.cymru/cymraeg) yw’r gyntaf o gyfres o is-wefannau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu lansio ar barth newydd .cymru a .wales. Caiff nodweddion ychwanegol newydd eu cyflwyno dros y misoedd i ddod fel rhan o waith parhaus i ddatblygu’r wefan ymhellach ac ymateb i anghenion defnyddwyr.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae rhoi cyfle i bobl ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg yn eu bywyd bob dydd yn ganolog i Bwrw Mlaen, ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol yr iaith. Mae gwefan newydd Cymraeg yn ffynhonnell wych o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gweill a chyrsiau sydd ar gael mewn cymunedau lleol, a dwi am annog pobl ledled Cymru i’w defnyddio i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r iaith.

 

“Dwi’n hapus iawn hefyd fod yna nifer o is-wefannau eraill y mae Llywodraeth Cymru am eu lansio ar barth newydd .cymru a .wales. Mae sicrhau enwau dwyieithog i barthau yn gam symbolaidd ymlaen. Bydd yn helpu i hyrwyddo’r Gymraeg ar-lein ac mae hynny’n hanfodol er mwyn i’r iaith ffynnu.

 

“Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Fe ddangosodd yr arolwg diweddar o’r defnydd o’r iaith bod yna lawer i fod yn hapus yn ei gylch a llawer iawn o waith da eisoes ar y gweill. Byddwn yn parhau i adeiladu ar hyn er mwyn sicrhau iaith fyw ar gyfer y dyfodol.”