Gwybodaeth a’r Newyddion Diweddaraf i Fusnesau Abertawe
Cynllun Hybu’r Gymraeg – Comisiynydd y Gymraeg
Mae nifer o sefydliadau’n penderfynu datblygu Polisi neu Gynllun Iaith Gymraeg. Mae Cynllun Hybu’r Gymraeg yn canolbwyntio ar weithredu a datblygu dros amser ac yn eich galluogi i asesu’ch darpariaeth presennol trwy holiadur hunan asesu. Gallwch wedyn osod targedau – o ateb y ffôn, i gyfryngau cymdeithasol, digwyddiadau a recriwtio.
Mae’r fideo isod yn dangos sut mae’r broses yn gweithio. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Ydych chi’n rhedeg busnes bach neu ganolig?
Eisiau cyngor a chymorth am ddim ar sut mae cynyddu’r defnydd o Gymraeg yn eich busnes?
Darganfyddwch sut all defnyddio’r Gymraeg yn eich busnes eich helpu i:
- Ddenu cwsmeriaid newydd
- Gadw cleientiaid ffyddlon
- Creu pwynt gwerthu unigryw
- Codi safon eich gwasanaeth cwsmer
Am gyngor a chefnogaeth am ddim, wedi ei deilwra i anghenion unigol eich busnes, cysylltwch â:
Llinos Haf
llinos.haf@cymraegbusnes.cymru
07809 731 570
@Welsh4biz