Datganiad Cenhadaeth Menter Iaith Abertawe
“Hwyluso cyfleoedd i bobl sir Abertawe fyw trwy gyfrwng y Gymraeg ac i fwynhau diwylliant Cymraeg yn eu bywydau bob dydd.”
Pwyllgor Rheoli Menter Iaith Abertawe 2019 – 2020
Mae Menter Iaith Abertawe yn is-gwmni i elusen Cymdeithas Tŷ Tawe. Pwyllgor Rheoli Menter Iaith Abertawe sy’n gyfrifol am Fenter Iaith Abertawe. Mae pwyllgor rheoli’r Fenter yn cynnwys Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Trysorydd ac Ysgrifennydd/Pennaeth y Fenter. Y pwyllgor rheoli sydd yn gwneud penderfyniadau parthed y Fenter. Cynhelir cyfarfodydd bob deufis. Darperir rheolaeth ddydd i ddydd gan y Pennaeth.
Cyfarwyddwyr
- Alun Chivers– Cadeirydd
- Saran Thomas – Is-Gadeirydd
- Jane Altham-Watkins – Trysorydd
- Heini Gruffudd
- Jaci Gruffudd
- Rhian Jones
- Catrin Rowlands
- Hannah Sams
- Ann Williams
- Rhian Williams
Aelod y Pwyllgor Rheoli nad yw’n gyfarwyddwr
- Megan Colbourne
Cylch Gorchwyl Menter Iaith Abertawe
Cymeradwywyd Cylch Gorchwyl diweddaraf Menter Iaith Abertawe ar 31 Mawrth 2019. Gellir gweld y cylch gorchwyl yma
Adroddiad Pennaeth Menter Iaith Abertawe a Thŷ Tawe
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth yn y cyfarfod blynyddol ar 31 Mawrth 2019. Gellir gweld yr adroddiad yma.
Adroddiad Cadeirydd Menter Iaith Abertawe
Cyflwynwyd adroddiad y Cadeirydd yn y cyfarfod blynyddol ar 31 Mawrth 2019. Gellir gweld yr adroddiad yma.