g  
hybu'r iaith yn lleol
 
 


Plant Cynradd
Clybiau @
Pobl Ifanc
GyGAbertawe
Dysgu Cymraeg
Digwyddiadur
Gweithgareddau
Cofrestru Ar-lein
Busnes
Cyfieithu

Swyddogion
Newyddion
Fideos
Eich Barn
Hysbysebion
Cyfeirlyfr
Ty Tawe
Siop Ty Tawe
Papur Bro Wilia
Tyrfe-Tawe
Taflenni
Mentrau Iaith Cymru
Cysylltiadau

English


 




Busnes

Betsan Pearce

Betsan Pearce
Cyfieithydd Cymunedol

Busnesau yn gweithio yn ddwyieithog

Yma yn y Fenter Iaith, rydym yn annog busnesau i gymryd mantais o’r cyfleodd sydd ar gael i weithio’n ddwyieithog, trwy gynnig cyngor am gyfieithu, dylunio dwyieithog effeithiol yn ogystal â’r amrywiaeth o grantiau sydd ar gael. Ariennir y grantiau hyn gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac maent ar gael i helpu gyda chostau o ddatblygu arwyddion dwyieithog.

 

Rydym ar gael ar gyfer unrhyw wybodaeth neu gyngor ar sut i gael budd yn syth o ddefnyddio’r Gymraeg yn eich busnes. Gall hyd yn oed y newidiadau bach effeithio enfawr ar ddelwedd eich busnes. Cysylltwch â Menter Abertawe ar 01792 460906 neu drwy'r negesfwrdd yma > neges

Cyngor
Rydym yn medru rhoi cyngor ar agweddau amrywiol o ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn busnes ac yn y gweithle. Gallwn ddod i gwrdd â chi yn eich gweithle i drafod sut gallwch wella a datblygu eich darpariaeth o’r iaith Gymraeg yn y busnes. Mae nifer o ddeunyddiau a gwasanaethau ar gael i’ch cefnogi drwy’r broses hon.

Grantiau
Mae dau grant gwahanol ar gael i gynorthwyo’r broses o lunio deunyddiau dwyieithog. Gallwch geisio am grant i helpu gyda’r costau o gyfieithu, dylunio a chreu’r deunyddiau yn ddwyieithog, ac mae ar gael i sefydliadau sector preifat a gwirfoddol sy’n dymuno cynhyrchu deunydd dwyieithog.

Grant Busnes
Bwrdd yr Iaith sydd yn cynnig y grant hwn i fusnesau a’i nod yw “ysgogi sefydliadau i weithredu’n ddwyieithog a’u hannog i ddefnyddio’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg”.
Mae modd defnyddio’r grant i gynhyrchu’r canlynol:

· llyfrynnau
· pamffledi
· taflenni
· pecynnau
· posteri
· arwyddion
· gwefannau
Gellir derbyn grant o rhyw 30-50% o’r cyfanswm, hyd at uchafswm o £1000. Dim ond un cais gellir ei gyflwyno ym mhob blwyddyn ariannol.

 


Cynllun Naws am Le
Cynigir y grant hwn gan Fwrdd Croeso Cymru mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru. Prif amcan y cynllun hwn yw hybu’r ddarpariaeth o arwyddion dwyieithog o fewn busnesau yn y sector preifat. Mae’r grant ar gael er mwyn gosod arwyddion dwyieithog newydd - mewnol neu allanol. Cynigir grantiau o 50% am brosiectau cymwys dros £100, hyd at uchafswm o £1000 i un busnes.

Gwersi Cymraeg
Mae’r Adran Addysg Barhaus Oedolion ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe yn cynnig gwersi rhad ac am ddim i fusnesau preifat a chymdeithasau gwirfoddol. Mae’r cyrsiau yn cael eu teilwra at eich anghenion chi a gellir cynnal y gwersi yn eich gweithle. Am fwy o wybodaeth am y gwersi cysylltwch â Caryl Clement ar 01792 513377 neu j.c.clement@abertawe.ac.uk.

Cyfieithu
Rydym hefyd yn cyflogi Cyfieithydd Cymunedol sydd yn medru cyfieithu darnau o waith i chi, gan gynnwys pamffledi, adroddiadau, arwyddion, gwefannau ayyb. Am fwy o wybodaeth gweler y dudalen Cyfieithu ar y wefan hon neu cysylltwch â hi ar 01792 652252, e-bost > neges

Deunyddiau eraill
Gallwch hefyd fanteisio ar nifer o ddeunyddiau rhad ac am ddim sydd ar gael i fusnesau. Mae gan y fenter arwydd drws ar agor/ar gau, ac mae nifer o ddeunyddiau ar gael gan Fwrdd yr Iaith gan gynnwys dyfais cownter a sticeri drws yn dweud Siaredir Cymraeg yma a bathodynnau i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.

 

Am fwy o fanylion, neu am sgwrs ar ddwyieithrwydd eich busnes, cysylltwch â ni ar 01792 460906, neu e-bost > neges

Top a a a gweHendre

Ewrop

a