
‘Ma’ dy Gymraeg di’n Grêt!’ yn gynllun peilot sydd wedi ei gynnal mewn sawl ardal yng Nghymru yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’r cynllun yn annog pobl sy’n gallu siarad Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol. Y gobaith yw gallu newid arferion rhieni sy’n gallu siarad Cymraeg ond sydd wedi arfer siarad Saesneg gyda’i gilydd.
Ar y cyd a TWF, trefnodd Menter Iaith Abertawe 10 sesiwn yn Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen er mwyn ymarfer defnyddio’r Gymraeg wrth wneud gweithgareddau crefft - o wneud cardiau i drefnu blodau, peintio gwydr, canu gwerin, tylino llaw a gemwaith. Dywedodd Shelley Rees o Fenter Iaith Abertawe fu’n arwain y cynllun ar y cyd gyda TWF “Doedd un rhiant erioed wedi ystyried siarad Cymraeg gyda’i baban newydd hyd nes iddi ymuno a’r cynllun hwn am mai Saesneg oedd iaith y cartref er ei bod hi wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.”
Mae’r sesiynau bellach yn parhau yng nghaffi “Fresh 2 Lips” yng nghanol Clydach pob bore dydd iau a chroeso i unrhyw aelod newydd i ymuno a’r grŵp. Roedd yn gyfle i wneud ffrindiau newydd, a chodi hyder yr unigolion mwy parod i edrych ar ddigwyddiadau cyfrwng Cymraeg ac ymuno a gweithgareddau teuluoedd cyfrwng Cymraeg.
|