Gall Menter Iaith Abertawe gynnig gwasanaethau cyfieithu ar bapur, cyfieithu ar y pryd a golygu yn ogystal â’ch cynghori ar sut i fynd ati i gynhyrchu deunydd dwyieithog a’r grantiau sydd ar gael i’ch helpu. A hyn oll gan gyfieithydd cymwys a phroffesiynol.
Gallwch hefyd logi ein hoffer cyfieithu ar y pryd sy’n hawdd i’w gludo a’i osod. Mae prisiau’r gwasanaeth hwn yn amrywio yn ôl y math o sefydliad sydd yn defnyddio’r gwasanaeth. Ffoniwch 01792 652252 am ragor o wybodaeth.
E-bost: cyfieithu@menterabertawe.org
Cyfieithu ar bapur: am ddim hyd at 1,000 o eiriau am y 6 mis cyntaf, £30 y fil wedi hynny.
Cyfieithu ar y pryd: yr awr gyntaf am ddim yna £20 yr awr.
Llogi offer cyfieithu ar y pryd: £20 y bocs (20 clustffon) y dydd.
Golygu: £10 yr awr.
Cyfieithu ar bapur: £35 y fil, cyfieithiadau bychain am ddim (cardiau busnes, papur pennawd etc.)
Cyfieithu ar y pryd: £20 yr awr.
Llogi offer cyfieithu ar y pryd: £25 y bocs (20 clustffon) y dydd.
Golygu: £15 yr awr.
Cyfieithu ar bapur: £40 y fil.
Cyfieithu ar y pryd: £25 yr awr.
Llogi offer cyfieithu ar y pryd: £35 y bocs (20 clustffon) y dydd.
Golygu: £20 yr awr.
Cyfieithu ar bapur: £35 y fil.
Cyfieithu ar y pryd: £25 yr awr.
Llogi offer cyfieithu ar y pryd: £35 y bocs (20 clustffon) y dydd.
Golygu: £12 y fil.
Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth cyfieithu yn rhad ac am i sefydliadau yn ardaloedd gwledig Abertawe! Ffoniwch am wybodaeth pellach. 01792 460 906
Ariennir y gwasanaeth cyfieithu yn rhannol gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a chyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Gynllun datblygu Gwledig Cymru 2007-2013.
|