Treforus
Yn dilyn llwyddiant ysgubol cwrs Ma’ Dy Gymraeg di’n Grêt y llynedd yng Nghlydach fe ddechreuodd yr ail gwrs eleni yn Nhreforys. Y tro yma mae’r grŵp wedi bod yn ffodus iawn o dderbyn cefnogaeth a chymorth Prif Athrawes Ysgol newydd Tan y Lan yn Nhreforys, Catrin Jones fu’n annog rhieni i ddod i’r sesiynau.
Mae’r cwrs 10 wythnos yn rhoi hwb i rieni lleol ddod at eu gilydd i ymarfer eu Cymraeg ac ail gydio yn eu sgiliau ieithyddol, gyda wyth rhiant yn mynychu’n gyson.
Dechreuwyd y cwrs gyda sesiwn syml o gwis Cymraeg, gweithdy addurno cacennau bach, gweithdy creu bagiau rhoddion, gweithdy addurno cardiau Nadolig a phen-blwydd.
Ers dechrau’r cwrs mae hyder ieithyddol 2 o’r rhieni wedi codi cymaint nes mynd ymlaen i gynorthwyo yng Nghylch Boreol Ysgol Tan y Lan.
Yn fwy ddiweddar cafwyd sesiwn gymdeithasol yn un o dafarndai Treforys. Daeth sawl un o’r grŵp a’u plant. Bu’n gyfle hyfryd i’r plant ar oedolion i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am fanylion pellach mae croeso i chi gysylltu â Menter Iaith Abertawe ar 01792 460 906

02/12/2011