Menter Caerdydd

hybu'r iaith yn lleol

Help / Cymorth
Digwyddiadur Menter Iaith Abertawe

 

 

Digwyddiadur
DyddiadAmser BethBle
05/02/2012
Dydd Sul Poster
15:00 Iwerddon v Cymru Dewch i Dŷ Tawe ar ddydd Sul, 5 Chwefror i wylio Cymru yn herio’r Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae’r gic gyntaf am 15:00, a drysau’n agor am 14:15. Mae mynediad am ddim felly dewch yn llu i gefnogi! Tŷ Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW
13/02/2012
Dydd Llun Poster
. Her Chwefror Bydd Menter Iaith Abertawe yn cynnal Her Chwefror yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Mae Her Chwefror yn gynllun blynyddol sydd yn cynnig pedwar diwrnod o weithgareddau amrywiol i blant a phobl ifanc, yn cynnwys sgïo, dringo, taith i Langrannog a llawer mwy! Bydd Her Chwefror hefyd yn gyfle i’r bobl ifanc gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg y tu allan i oriau’r ysgol. Bydd hyn yn helpu sicrhau bod y Gymraeg yn datblygu’n iaith naturiol, bob dydd, ac yn iaith ar gyfer hwyl a sbri hefyd. Cost pob diwrnod yw £15, neu £50 am y pedwar diwrnod. Bydd angen blaendal o £10 pan yn arbed lle i’ch plentyn. Cyfyngir y lle sydd ar gael i 15 plentyn y diwrnod, felly argymhelliwn eich bod yn cadw lle’n gynnar. Am fanylion pellach, neu i gadw lle, cysylltwch â ni ar 01792 460906 neu swyddfa@menterabertawe.org
13/02/2012
Dydd Llun Poster
9:30 Hwyl Chwefror Bydd Menter Iaith Abertawe yn cynnal Cynlluniau Chwarae yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Bydd y Cynlluniau yn agored i blant sy’n 8 oed neu’n hŷn, ac yn gyfle iddynt chwarae gemau, gwneud chwaraeon, ymgymryd â gweithgareddau celf a chrefft ac ymlacio. Bydd y Cynlluniau Chwarae hefyd yn gyfle i’r plant gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg y tu allan i oriau’r ysgol. Bydd hyn yn helpu sicrhau bod y Gymraeg yn datblygu’n iaith naturiol, bob dydd, ac yn iaith ar gyfer hwyl a sbri hefyd. Cynhelir y Cynlluniau Chwarae yn Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw, rhwng Chwefror 13eg a’r 17eg, o 9.30yb i 12.30yh. Arweinir y Cynlluniau Chwarae gan arweinydd profiadol y Fenter a staff atodol sydd oll wedi derbyn yr hyfforddiant perthnasol ac yn dal tystysgrif CRB ddilys. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Shelley Rees ar 01792 460906 neu shelley@menterabertawe.org YGG Gellionnen, Clydach ac YGG Llwynderw, West Cross
14/02/2012
Dydd Mawrth Poster
7:30yh Brwydr y Bandiau 2012 Oes gennych chi ddiddordeb mewn cystadlu yng nghystadleuaeth Radio Cymru Brwydr y Bandiau? Mae rhaglen C2 Radio Cymru yn trefnu cystadleuaeth i weld pwy yw’r band/unawdydd mwyaf talentog yng Nghymru. Bydd cystadleuaeth ranbarthol C2 yn cael ei chynnal ar Nos Iau Chwefror yr 16eg Yn: Theatr Soar, Merthyr Tudful Am: 7.30yh Rheolau: Bydd gofyn canu un gân wreiddiol a dwy gân adnabyddus (covers) a rhaid i gystadleuwyr fod dros 16 oed. Os hoffech fynychu gweithdy cerddorol yn ystod hanner tymor fel paratoad am y gystadleuaeth yna gallwch drafod gydag arbenigwyr cerddorol mewn gweithdy ar y 14eg, 15ed a’r 16eg o Chwefror yn Theatr Soar, Merthyr Tudful. Os hoffech gofrestru yna cysylltwch ag Elin Leyshon ym Menter Iaith Abertawe ar 01792 460906, neu e-bostiwch Elin ar elin@menterabertawe.org CYSYLLTWCH ERBYN DYDD GWENER IONAWR y 27AIN Theatr Soar, Merthyr Tudful.
20/02/2012
Dydd Llun Poster
19:00 Cylch Trafod Bydd y Clych Trafod yn cwrdd yn Nhŷ Tawe ar nos Lun 2 Chwefror am 19:00 i drafod nofel ddiweddaraf Gwen Parrott, Hen Blant Bach. Mae’r nofel ar gael o Siop Ty Tawe, a chynigir gostyngiad o 10% oddi ar y llyfr hwn i aelodau’r Cylch Trafod. Tŷ Tawe, 9 Stryd Christina, SA1 4EW
02/03/2012
Dydd Gwener Poster
19:30 Fala' Surion Addasiad Catrin Dafydd a Manon Eames o 'Fresh Apples' gan Rachel Trezise Cynhyrchiad llawn emosiwn, delweddau trawiadol a hiwmor tywyll am fywyd pobl ifanc yng Nghymru. Am y tro cyntaf, dyma addasiad Cymraeg o waith gafaelgar Rachel Trezise. Cynhyrchiad egnïol a chyfoes yn rhoi golwg gonest ar ardaloedd trefol ar draws Cymru. Amfanylion pellach: taliesinartscentre.co.uk / 01792 602060 Canolfan Taliesin, Abertawe
12/03/2012
Dydd Llun Poster
19:00 Cylch Trafod Bydd y Clych Trafod yn cwrdd yn Nhŷ Tawe ar nos Lun 12 Mawrth am 19:00 i drafod nofel ddiweddaraf Sian Northey, Yn y Tŷ Hwn. Mae’r nofel ar gael o Siop Ty Tawe, a chynigir gostyngiad o 10% oddi ar y llyfr hwn i aelodau’r Cylch Trafod. Tŷ Tawe, 9 Stryd Christina, SA1 4EW
31/03/2012
Dydd Sadwrn Poster
7:30yh Catrin Finch a Toumani Diabate Oddi wrth gynhyrchwyr prosiectau mawrion Billy Cobham ac Asere a Catrin Finch a Cimarron daw cydweithrediad cerddorol trawiadol arall sy’n cynnwys dau bencerddor o’r radd flaenaf. Daw Catrin a Toumani o ddau ddiwylliant gwahanol iawn: mae Mali, gwlad ddeheuol y Sahara tirgloëdig a gwastad gan mwyaf yn un o’r rhai tlotaf yn y byd ac eto’n cynhyrchu’r gerddoriaeth fwyaf aruchel ar y Ddaear; o gymharu, mae dyffrynnoedd ffrwythlon a gwyrdd a mynyddoedd uchel Cymru’n gyfarwydd i bob un ohonom. Mae gan y delyn le hollbwysig yn niwylliannau cyfoethog y ddwy genedl. Mae’r delyn o Orllewin Affrica - y cora - a gaiff ei chwarae gan Toumani wedi’i gwneud o gowrd wedi’i sychu a lein bysgota; mae telyn Gymreig Catrin yn un o symbolau mwyaf eiconig cenedl sydd wedi’i thrwytho mewn cerddoriaeth. Toumani Diabaté yw un o gerddorion pwysicaf Affrica ac ystyrir ar raddfa eang yn chwaraewr cora byw gorau’r byd. Mae’n berfformiwr eithriadol o ddawnus a chreadigol, ac mae ei linach yn mynd nôl 71 cenhedlaeth o chwaraewyr cora, o dad i fab. Mae wedi cydweithredu gyda Damon Albarn, Björk a’r diweddar, Ali Farka Touré, yr enillodd y ddau ohonynt Wobr GRAMMY gyda’i gilydd yn 2006. Canolfan Celfyddydau Taliesin Prifysgol Abertawe Parc Singleton Abertawe SA2 8PZ
Wythnosol
DyddiadAmserBethBle
Wythnosol
Dydd Mercher
19.30 Cor Ty Tawe Yn cwrdd yn wythnosol ar nos Fercher 7.30-9pm. Ty Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW
Wythnosol
Dydd Iau
10.00-12.00 CYD Grŵp anffurfiol ble mae dysgwyr a siaradwyr yr iaith Gymraeg yn dod at ei gilydd er mwyn sgwrsio dros gwpaned o de neu goffi. y Lolfa, Ty Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe
Wythnosol
Dydd Sadwrn Poster
10.00 Siop Siarad Ydych yn edrych am ffordd o ymarfer eich Cymraeg? Os ydych, dewch i ymarfer siarad Cymraeg dros baned o de neu goffi, mewn awyrgylch anffurfiol gyda phobl eraill o'r un meddwl. Bob bore Sadwrn 10.00-12.00. Y Lolfa, Ty Tawe, 9 Stryd Christina Abertawe SA1 4EW
Cysylltwch â 01792 460906 am wybodaeth bellach

 

 

 

 

 
   
   

 

 

 


Top a a
a Urdd Gobaith Cymru

Ewrop

a