TAITH FEICIO’R GWYR Mae taith feicio mwyaf Cymru yn dychwelyd i’r Gwyr unwaith eto, felly dewch i ymuno gyda'r digwyddiad poblogaidd hwn a mwynhau diwrnod allan yn un o ardaloedd mwyaf prydferth Cymru.
Dewisiwch eich cwrs,16 neu 29 milltir o hyd, yn dechrau a gorffen ym maes San Helen ac yn dilyn llwybr o amgylch Penrhyn Gwyr. Mae dros hanner pellter y llwybr 16 milltir yn dilyn llwybr feicio o Dre-gwyr i Ddulais, a’r llwybr 29 milltir yn ymestyn ymhellach i’r gorllewin.
Cewch ddechrau ar eich taith rhwng 9:00am a 10:00am, ond rhaid i chi ddychwelyd i’r linell orffen erbyn 4:00pm i gasglu eich medal a bag nwyddau.
Cefnogir Taith Feicio’r Gwyr gan Gyngor Chwaraeon Cymru
I gofrestru ewch i www.bhf.org.uk/gowerbikeride neu ffoniwch: 0800 783 6970
Cylch Trafod Llyfrau
Byddwn yn trafod “Dauwynebog” gan Ceri Wyn Jones (gan i ni eisioes drafod y ddau lyfr arall sydd ar restr fer llyfr y flwyddyn).
Tafarn yr Uplands
12/07/2008 Dydd Sadwrn
11.00am
Grwp Teithiau Cerdded Menter Abertawe Taith Cerdded yn ardal Llanrhidian.
Arweinydd Sarah Edwards
Cwrdd 11.00am ym maes parcio Gwesty North Gower, Llanrhidian, Penrhyn Gwyr, Abertawe, SA3 1EE
12/07/2008 Dydd Sadwrn
9.30
URDD GOBAITH CYMRU Taith i Barc Penbre
Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf 2008
Blwyddyn 5 a 6
Taith ar gyfer disgyblion holl ysgolion cynradd Cymraeg Gorllewin Morgannwg - peidiwch colli allan ar y cyfle gwych hwn.
£10.00 i aelodau, £16 i'r rhai ohonoch sydd heb ymaelodi gyda'r Urdd. Mae’r pris yn cynnwys bws i’r parc a nol (bws o Ysgol Gyfun Bryntawe am 9.30am yn nol tua 5:30pm) 2 tro ar y tobogan, gem o golff gwallgo, a llond llwyth o gemau ar y traeth ac yn y parc. Bydd angen dod a picnic i fwyta yn y parc. Bydd mwy o fanylion yn dod ar ol y dyddiad cau.
Os ydych chi a’ch ffrindiau eisiau dod, cysylltwch swyddfa'r Urdd 01792 560624 erbyn Dydd Llun, 16 Mehefin 2008.
Parc Gwledig Penbre
13/07/2008 Dydd Sul
10.45
URDD GOBAITH CYMRU DIWRNOD HWYL ABERTAWE
Dydd Sul, Gorffennaf 13 2008
Blwyddyn 7- 8
Ysgolion Cyfun Cymraeg De Cymru
Beth am ymuno gyda'r Urdd i gymdeithasu gyda phobl ifanc led led De Cymru? Cyfle i Fowlio 10 a nofio yn yr LC2. Beth amdani - peidiwch colli allan ar y cyfle hwn.
£10.00 i aelodau / £16 i'r rhai ohonoch sydd heb ymaelodi a'r Urdd.
Cyfarfod gyda staff yr Urdd wrth fynedfa’r Bowlio 10 - Parc Tawe am 10.45am a gadael am 4.00pm o fynedfa yr LC2. Bydd mwy o fanylion yn dod ar ol y dyddiad cau.
Os ydych chi a’ch ffrindiau eisiau dod, cysylltwch a Swyddfa’r Urdd 01792 560624 erbyn Dydd Llun, 30 Mehefin 2008 .
Menter Iaith Abertawe a'r Urdd Trip i Ganolfan Mileniwm Caerdydd rhwng 19-20 o Orffennaf.
Cyfle i weld stadiwm y Mileniwm, canolfan Mileniwm, arddangosfa Dr Who, siopa yng Nghaerdydd a bowlio 10.
£30 yn unig
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Eluned ar 01792 460906 neu e-bostiwch eluned@menterabertawe.org
Urdd Gobaith Cymru AR DY FEIC
Taith Feicio Abertawe
Blwyddyn 6 Ysgolion Cynradd Cymraeg
11.00y.b – 3.00 y.p
Ar Ddydd Gwener yr 8fed o Awst bydd yr Urdd yn cynnig cyfle i fynd ar daith feicio o St Helens i’r Mwmbwls ac yn ol. Cewch y cyfle i gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd. Bydd cyfle i gael hufen ia neu sglodion ac efallai gem o ‘crazy golf’
Os oes diddordeb gyda chi a’ch ffrindiau i ddod ‘ar eich beic’ cysylltwch a Swyddfa’r Urdd erbyn dydd Llun, 14 o Orffennaf.
Swyddfa’r Urdd, Ysgol Gyfun Bryntawe, Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BU
01792 560624
DIM COST AG EITHRIO ARIAN POCED
Menter Iaith Abertawe Clwb Dringo'r Fenter
Bydd 2 glwb dringo wythnosol yn digwydd ar ol hanner tymor.
Clwb i ddechreuwyr
6.00yh - 7.30yh
Clwb Canolradd
7.30yh - 9.00yh
Pris £6 y sesiwn bob nos Lun am bedair wythnos.
Ar ol cwblhau'r cwrs 4 wythnos bydd cyfle i bob dringwr fynychu sesiwn dringo tu allan yn Rhosili am £15 y pen!
Dynamic Rock, Clydach
Wythnosol Dydd Mawrth
7.00pm
@ Aelwyd Gorseinon i bobl ifanc 11+
Canolfan Ieunctid Gorseinon, High St
Wythnosol Dydd Mercher
6.00pm
@ Aelwyd Penlan i Blant Oedran 8 - 13
Canolfan Gymunedol Gogledd Penlan
Wythnosol Dydd Mercher
7.00
@ Aelwyd Clydach / Craig Cefn Parc i Bobl Ifanc oedran 11+
Neuadd Gellionnen
Wythnosol Dydd Mercher
10.00-12.00
Siawns am Sgwrs Grŵp trafod sy'n trafod pwnc gwahanol bob wythnos dros baned o de neu goffi.
Y Lolfa, Ty Tawe, Stryd Christina, Abertawe
Wythnosol Dydd Iau
7yh - 8:30yh
Menter Iaith Abertawe Mae Clwb dringo Menter Iaith Abertawe yn ail ddechrau felly dewch i gael bach o sbort wrth ddysgu sgil newydd!
Os ydych chi rhwng 11 a 14 dewch yn llu!
Pris: £6 yr wythnos dros 8 wythnos.
Dynamic Rock, Clydach
Wythnosol Dydd Iau
10.00-12.00
CYD Grŵp anffurfiol ble mae dysgwyr a siaradwyr yr iaith Gymraeg yn dod at ei gilydd er mwyn sgwrsio dros gwpaned o de neu goffi.
Wythnosol Dydd Sadwrn
10.00
Menter Iaith Abertawe SIOP SIARAD
Cyfle i ymarfer eich Cymraeg dros gwpan o de neu goffi.
Y Lolfa, Ty Tawe, Stryd Christina, Abertawe
Wythnosol Dydd Sadwrn
11.00am
Grwp Teithiau Cerdded Menter Abertawe Taith Cerdded 5-6 milltir o gwmpas ardal Castell Carreg Cennon. Mae'r daith yn cynnwys sawl rhan serth. Rhaid gwisgwch ddillad addas ac esgidiau cerdded cryf ar gyfer y daith hon.
Cwrdd 11.00am ym maes parcio Castell Carreg Cennon ger Llandybie