| |
| Digwyddiadur |
| Dyddiad | Amser | Beth | Ble |
19/05/2012 Dydd Sadwrn Poster | 10.30 | Taith Gerdded Copperopolis Cerddwyr i gwrdd ym maes parcio Parcio a Theithio Glandŵr, ger Stadiwm y Liberty am 10.30yb. Bydd y daith yn mynd o gwmpas ardal yr Hafod, a cheir hanes am y “Copperopolis” ar hyd y daith. Yn ddibynnol ar y tywydd, bydd cyfle i gerdded ar hyd y gamlas yn ogystal. Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas.
Arweinydd: Allison Thomas 07799 625088
| | 19/05/2012 Dydd Sadwrn Poster | 19.30 | Elwyn Stori ddoniol am oroesi yn y byd modern, gyda Russell Gomer a Ieuan Rhys yn serennu.
Cyfarwyddwyd ac addaswyd gan Michael Bogdanov.
Dyn yn ei bedwardegau a mab ei fam yw Elwyn, a gyda'i gydletywr Kelly, gwyryf anfoddog ac aflednais, nhw yw Cwpl Rhyfedd y Cymoedd; dau enaid dryslyd yn cymryd eu camau cyntaf yn y byd mawr tu allan, ar ôl blynyddoedd o fywyd ynysig mewn sefydliad iechyd meddwl. Ar ôl cael fflat gan y gwasanaethau cymdeithasol, y cyfan y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yw argyhoeddi eu gweithiwr cymdeithasol eu bod yn 'normal' mewn gwirionedd.
Gyda hiwmor sy'n cyffwrdd â'r galon, mae Elwyn a Kelly yn creu cyfeillion o'r newydd, yn ymgyfarwyddo â'r cyffredin ac yn dechrau profi pleser bywyd bob dydd.
Yn seiliedig ar y ffilm gwlt Norwyaidd a enwebwyd am Oscar, Elling, sy'n deillio o'r nofel Brødre i Blodet (Brodyr Gwaed) gan Ingvar Ambjornsen. Enwebwyd fersiwn o Elling am wobr Olivier a gwobr Stage am y gomedi orau yn 2007.
'Dyma'r noson fwyaf gwynfydedig ddoniol a theimladwy rydw i wedi'i chael yn y theatr ers oesoedd' The Guardian
Am docynnau: 01792 602060 | Canolfan y Celfyddydau, Taliesin. | 23/05/2012 Dydd Mercher Poster | . | Taith i'r Cynulliad Mae Menter Iaith Abertawe a Chanolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru yn trefnu taith i ymweld a’r Cynulliad yng Nghaerdydd. Bydd y daith yn rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol, ac yn gyfle i bawb ddysgu am rôl y llywodraeth ym Mae Caerdydd. Cynhelir y daith ar ddydd Mercher, Mai 23ain. Dylai unrhyw un sydd am fynychu’r daith gysylltu â Lowri Gwenllian ar 01792 642294 cyn diwedd Ebrill. | Bae Caerdydd | 23/05/2012 Dydd Mercher Poster | 13.00 | Guto Nyth Bran
Rhedwr. Arwr.
Yn y ddrama llawn hwyl a symud yma cewch glywed am gampau anhygoel bachgen cyflyma’r byd. Ymhell cyn i Usain Bolt ddod i’r byd roedd pawb yn bloeddio enw Guto Nyth Brân. Rhedwr anhygoel oedd Guto ac yn bencampwr di-guro. Tasai Guto wedi cystadlu yn yr Olympics mi fyddai’n berchen sawl medal aur.
Heb os mae chwedl Guto Nyth Brân yn un mae plant a’u teuluoedd yn mwyhau. Bydd y cynhyrchiad yma yn tanio’r dychymyg ymhellach, gyda defnydd o gerddoriaeth traddodiadol, caneuon a dawnsio.
Ydych chi wedi gweld bachgen yn dal aderyn tra’n hedfan?Neu’n rhedeg yn gynt na sgwarnog?
R’ych chi heb gwrdd â Guto Nyth Brân.
Oed : 7 +
Ffoniwch 01792 60 20 60 am docynnau. | Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe. |
Wythnosol
| Dyddiad | Amser | Beth | Ble |
Wythnosol Dydd Mercher | 19.30 | Cor Ty Tawe Yn cwrdd yn wythnosol ar nos Fercher 7.30-9pm. | Ty Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW | Wythnosol Dydd Iau | 10.00-12.00 | CYD Grŵp anffurfiol ble mae dysgwyr a siaradwyr yr iaith Gymraeg yn dod at ei gilydd er mwyn sgwrsio dros gwpaned o de neu goffi. | y Lolfa, Ty Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe | Wythnosol Dydd Sadwrn Poster | 10.00 | Siop Siarad Ydych yn edrych am ffordd o ymarfer eich Cymraeg? Os ydych, dewch i ymarfer siarad Cymraeg dros baned o de neu goffi, mewn awyrgylch anffurfiol gyda phobl eraill o'r un meddwl.
Bob bore Sadwrn 10.00-12.00. | Y Lolfa, Ty Tawe, 9 Stryd Christina Abertawe SA1 4EW |
Cysylltwch â 01792 460906 am wybodaeth bellach

| |
|
| |
|
| |
|
|