| |
| Digwyddiadur |
| Dyddiad | Amser | Beth | Ble |
05/02/2012 Dydd Sul Poster | 15:00 | Iwerddon v Cymru Dewch i Dŷ Tawe ar ddydd Sul, 5 Chwefror i wylio Cymru yn herio’r Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae’r gic gyntaf am 15:00, a drysau’n agor am 14:15. Mae mynediad am ddim felly dewch yn llu i gefnogi! | Tŷ Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW | 13/02/2012 Dydd Llun Poster | . | Her Chwefror
Bydd Menter Iaith Abertawe yn cynnal Her Chwefror yn ystod hanner tymor mis Chwefror.
Mae Her Chwefror yn gynllun blynyddol sydd yn cynnig pedwar diwrnod o weithgareddau amrywiol i blant a phobl ifanc, yn cynnwys sgïo, dringo, taith i Langrannog a llawer mwy!
Bydd Her Chwefror hefyd yn gyfle i’r bobl ifanc gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg y tu allan i oriau’r ysgol. Bydd hyn yn helpu sicrhau bod y Gymraeg yn datblygu’n iaith naturiol, bob dydd, ac yn iaith ar gyfer hwyl a sbri hefyd.
Cost pob diwrnod yw £15, neu £50 am y pedwar diwrnod. Bydd angen blaendal o £10 pan yn arbed lle i’ch plentyn. Cyfyngir y lle sydd ar gael i 15 plentyn y diwrnod, felly argymhelliwn eich bod yn cadw lle’n gynnar.
Am fanylion pellach, neu i gadw lle, cysylltwch â ni ar 01792 460906 neu swyddfa@menterabertawe.org
| | 13/02/2012 Dydd Llun Poster | 9:30 | Hwyl Chwefror Bydd Menter Iaith Abertawe yn cynnal Cynlluniau Chwarae yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Bydd y Cynlluniau yn agored i blant sy’n 8 oed neu’n hŷn, ac yn gyfle iddynt chwarae gemau, gwneud chwaraeon, ymgymryd â gweithgareddau celf a chrefft ac ymlacio.
Bydd y Cynlluniau Chwarae hefyd yn gyfle i’r plant gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg y tu allan i oriau’r ysgol. Bydd hyn yn helpu sicrhau bod y Gymraeg yn datblygu’n iaith naturiol, bob dydd, ac yn iaith ar gyfer hwyl a sbri hefyd.
Cynhelir y Cynlluniau Chwarae yn Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw, rhwng Chwefror 13eg a’r 17eg, o 9.30yb i 12.30yh. Arweinir y Cynlluniau Chwarae gan arweinydd profiadol y Fenter a staff atodol sydd oll wedi derbyn yr hyfforddiant perthnasol ac yn dal tystysgrif CRB ddilys.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Shelley Rees ar 01792 460906 neu shelley@menterabertawe.org
| YGG Gellionnen, Clydach ac YGG Llwynderw, West Cross | 14/02/2012 Dydd Mawrth Poster | 7:30yh | Brwydr y Bandiau 2012
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cystadlu yng nghystadleuaeth Radio Cymru Brwydr y Bandiau? Mae rhaglen C2 Radio Cymru yn trefnu cystadleuaeth i weld pwy yw’r band/unawdydd mwyaf talentog yng Nghymru.
Bydd cystadleuaeth ranbarthol C2 yn cael ei chynnal ar Nos Iau Chwefror yr 16eg
Yn: Theatr Soar, Merthyr Tudful
Am: 7.30yh
Rheolau: Bydd gofyn canu un gân wreiddiol a dwy gân adnabyddus (covers) a rhaid i gystadleuwyr fod dros 16 oed.
Os hoffech fynychu gweithdy cerddorol yn ystod hanner tymor fel paratoad am y gystadleuaeth yna gallwch drafod gydag arbenigwyr cerddorol mewn gweithdy ar y 14eg, 15ed a’r 16eg o Chwefror yn Theatr Soar, Merthyr Tudful.
Os hoffech gofrestru yna cysylltwch ag Elin Leyshon ym Menter Iaith Abertawe ar 01792 460906, neu e-bostiwch Elin ar elin@menterabertawe.org
CYSYLLTWCH ERBYN DYDD GWENER IONAWR y 27AIN
| Theatr Soar, Merthyr Tudful. | 20/02/2012 Dydd Llun Poster | 19:00 | Cylch Trafod
Bydd y Clych Trafod yn cwrdd yn Nhŷ Tawe ar nos Lun 2 Chwefror am 19:00 i drafod nofel ddiweddaraf Gwen Parrott, Hen Blant Bach. Mae’r nofel ar gael o Siop Ty Tawe, a chynigir gostyngiad o 10% oddi ar y llyfr hwn i aelodau’r Cylch Trafod. | Tŷ Tawe, 9 Stryd Christina, SA1 4EW | 02/03/2012 Dydd Gwener Poster | 19:30 | Fala' Surion Addasiad Catrin Dafydd a Manon Eames o 'Fresh Apples' gan Rachel Trezise
Cynhyrchiad llawn emosiwn, delweddau trawiadol a hiwmor tywyll am fywyd pobl ifanc yng Nghymru.
Am y tro cyntaf, dyma addasiad Cymraeg o waith gafaelgar Rachel Trezise. Cynhyrchiad egnïol a chyfoes yn rhoi golwg gonest ar ardaloedd trefol ar draws Cymru.
Amfanylion pellach: taliesinartscentre.co.uk / 01792 602060 | Canolfan Taliesin, Abertawe | 12/03/2012 Dydd Llun Poster | 19:00 | Cylch Trafod Bydd y Clych Trafod yn cwrdd yn Nhŷ Tawe ar nos Lun 12 Mawrth am 19:00 i drafod nofel ddiweddaraf Sian Northey, Yn y Tŷ Hwn. Mae’r nofel ar gael o Siop Ty Tawe, a chynigir gostyngiad o 10% oddi ar y llyfr hwn i aelodau’r Cylch Trafod. | Tŷ Tawe, 9 Stryd Christina, SA1 4EW | 31/03/2012 Dydd Sadwrn Poster | 7:30yh | Catrin Finch a Toumani Diabate Oddi wrth gynhyrchwyr prosiectau mawrion Billy Cobham ac Asere a Catrin Finch a Cimarron daw cydweithrediad cerddorol trawiadol arall sy’n cynnwys dau bencerddor o’r radd flaenaf.
Daw Catrin a Toumani o ddau ddiwylliant gwahanol iawn: mae Mali, gwlad ddeheuol y Sahara tirgloëdig a gwastad gan mwyaf yn un o’r rhai tlotaf yn y byd ac eto’n cynhyrchu’r gerddoriaeth fwyaf aruchel ar y Ddaear; o gymharu, mae dyffrynnoedd ffrwythlon a gwyrdd a mynyddoedd uchel Cymru’n gyfarwydd i bob un ohonom.
Mae gan y delyn le hollbwysig yn niwylliannau cyfoethog y ddwy genedl. Mae’r delyn o Orllewin Affrica - y cora - a gaiff ei chwarae gan Toumani wedi’i gwneud o gowrd wedi’i sychu a lein bysgota; mae telyn Gymreig Catrin yn un o symbolau mwyaf eiconig cenedl sydd wedi’i thrwytho mewn cerddoriaeth.
Toumani Diabaté yw un o gerddorion pwysicaf Affrica ac ystyrir ar raddfa eang yn chwaraewr cora byw gorau’r byd. Mae’n berfformiwr eithriadol o ddawnus a chreadigol, ac mae ei linach yn mynd nôl 71 cenhedlaeth o chwaraewyr cora, o dad i fab. Mae wedi cydweithredu gyda Damon Albarn, Björk a’r diweddar, Ali Farka Touré, yr enillodd y ddau ohonynt Wobr GRAMMY gyda’i gilydd yn 2006. | Canolfan Celfyddydau Taliesin
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PZ
|
Wythnosol
| Dyddiad | Amser | Beth | Ble |
Wythnosol Dydd Mercher | 19.30 | Cor Ty Tawe Yn cwrdd yn wythnosol ar nos Fercher 7.30-9pm. | Ty Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW | Wythnosol Dydd Iau | 10.00-12.00 | CYD Grŵp anffurfiol ble mae dysgwyr a siaradwyr yr iaith Gymraeg yn dod at ei gilydd er mwyn sgwrsio dros gwpaned o de neu goffi. | y Lolfa, Ty Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe | Wythnosol Dydd Sadwrn Poster | 10.00 | Siop Siarad Ydych yn edrych am ffordd o ymarfer eich Cymraeg? Os ydych, dewch i ymarfer siarad Cymraeg dros baned o de neu goffi, mewn awyrgylch anffurfiol gyda phobl eraill o'r un meddwl.
Bob bore Sadwrn 10.00-12.00. | Y Lolfa, Ty Tawe, 9 Stryd Christina Abertawe SA1 4EW |
Cysylltwch â 01792 460906 am wybodaeth bellach

| |
|
| |
|
| |
|
|