Menter Caerdydd

hybu'r iaith yn lleol

Help / Cymorth

 

Cwrs Gwaith Ieuenctid i Bobol Ifanc

O ddechrau mis Hydref tan Ragfyr 2011 bu criw 13 o bobol ifanc brwdfrydig o Ysgolion Cyfun Gwyr a Bryn Tawe yn ymgymryd ar chwrs Gwaith Ieuenctid i Bobol Ifanc neu GIBI. Mae’r prosiect sy’n ymestyn gorwelion pobl ifanc Abertawe yng ngwaith ieuenctid ac yn eu cymhwyso i weithio gyda phobol ifanc.

Mae Menter Iaith Abertawe yn cydweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Dinas a Sir Abertawe i ddarparu’r cwrs deg wythnos yng nghanolfan Ieuenctid Canoldre ar nosweithiau Llun.

Yn ystod y cwrs mae’r bobol ifanc yn dysgu am amryw o agweddau yn ymwneud â gwaith ieuenctid megis “y gweithiwr ieuenctid delfrydol”, theorïau yn gysylltiedig â gwaith ieuenctid yn ogystal ag ystyriaethau ynglŷn â chyfle cyfartal a gweithio gyda chymunedau.

Fel rhan o’r cwrs mae cyfle hefyd i’r bobol Ifanc fynd ar benwythnos preswyl yn Rhosili, Penrhyn Gwyr i ganolbwyntio ar iechyd a diogelwch, globaleiddio a pharatoi a chyflwyno meicro sesiynau ar bynciau fel peryglon o’r camddefnydd o gyffuriau ag alcohol.

Diolch penodol i Angharad Jenkins am gyd-lynu’r cwrs yn 2011 ag i Dai Bryer o’r Urdd a Paul Worsfold o Wasanaeth Ieuenctid Abertawe am gymryd sesiynau penodol yn ystod y cwrs.

Llongyfarchiadau mawr i’r 13 am gwblhau’r cwrs eleni.

Mae’r cwrs yn agor drysau i’r bobl ifanc gymhwyso a chael eu cyflogi gan Fenter Iaith Abertawe fel gweithwyr Ieuenctid yn ein clybiau wythnosol neu wirfoddoli yn ein gweithgareddau rheolaidd.

Mae cyfle i 15 o bobl ifanc rhwng 16-25 oed ymgymryd a’r cwrs yn flynyddol. Bydd angen cofrestri ym Medi 2012 ar gyfer y cwrs nesaf. Cysylltwch a Menter Iaith Abertawe ar 01792 460 906 neu menter@menterabertawe.org.

Lluniau: Angharad Jenkins: prif gyd-lynydd y cwrs GIBI
09/01/2012

 

 



Top a a
a Urdd Gobaith Cymru

Ewrop

a