|
Gêm timau Pêl-rwyd Menter Iaith Abertawe ac Ysgol Gyfun GŵyrNos Wener y 18fed o Dachwedd chwaraeodd tîm pêl-rwyd Menter Iaith Abertawe ei gem gyntaf yn erbyn Ysgol Gyfun Gŵyr yng nghanolfan hamdden Penyrheol. O dan arweiniad y gyn athrawes Addysg Gorfforol Sue Leyshon a`r athrawes Addysg Gorfforol Sara Thomas sgoriwyd sawl gôl gampus gan y ddau dîm gyda`r gêm yn agos a`r cefnogwyr yn mwynhau’r wledd. Y sgôr terfynol oedd 13 i 8 a’r fuddugoliaeth i Fenter Iaith Abertawe. Mae`n sicr yn ddechrau gwych ar gyfer gêm nesaf i dîm y Fenter yn erbyn Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot ddydd Gwener nesaf y 25ain o Dachwedd ac yn ddechrau da i dim blwyddyn 7 ysgol gyfun Gwyr .
Mae clwb pêl-rwyd Mentrer Iaith Abertawe yn cwrdd pob nos Wener yng Nghanolfan Penyrheol rhwng 17:00 a 18:00. Mae’r aelodau o ysgolion Bryn Tawe, Gŵyr ac Ysgol Gynradd Login Fach er bod croeso mawr i aelodau newydd.
Diolch o galon i`r hyfforddwyr brwd – Sue Leyshon a Sara Thomas a gan edrych ymlaen at weddill y tymor!
Profiad Brawd Mawr AbertaweYr wythnos hon mae Menter Iaith Abertawe mewn partneriaeth a Gwasanaeth Ieuenctid Abertawe yn rhedeg Profiad y Brawd Mawr. Mae'r profiad yn rhedeg am 3 diwrnod cyfan gyda 22 o gyfranogwyr yn mynd mewn i'r tŷ, gyda'r ennillydd yn cipio £100. Gallwch cadw mewn cysylltiad gyda beth sy'n mynd ymlaen yn y tŷ ar y blog, lle bydd y diweddaraf o'r ty yn cael ei ddangos. Gallwch adael negeseuon a sylwadau ar y dudalen (gan gofio y bydd pob un yn cael ei monitro cyn mynd ar y wefan) Gwefan -
brawdmawrCanwn yn Nhy TaweCafwyd noson arbennig yn Nhŷ Tawe nos Wener Mai 22ain, gyda noson o ganu caneuon traddodiadol Cymraeg yn y bar, gyda Iona Herbert yn arwain y canu. Cafwyd perfformiadau anhygoel hefyd gan Heini Gruffudd a Chris Reynolds. Cafodd pawb mynychodd y noson llyfr o ganeuon Cymraeg am ddim. Ar ôl y canu, cafwyd gig arbennig gyda Gai Toms ac Al Lewis yn diddanu’r gynulleidfa. BRWYDR Y BANDIAU 2009Llongyfarchiadau anferthol i fand “Yr Angen” o Abertawe a ddaeth yn fuddugol yn rownd ranbarthol Brwydr y bandiau C2 eleni. Mae’r band yn mynd ymlaen i rownd cyn derfynol Brwydr y Bandiau a fydd yn cael ei ddarlledu yn fyw ar radio Cymru yn yr wythnosau nesaf. Mae’r “Angen” wedi bod yn ymarfer yn wythnosol yn Nhy Tawe ers dros 2 flynedd erbyn hyn ac mae pawb fan hyn o’r fenter am ddymuno pob lwc yn y byd i Jamie, Jac, Dai a Gareth - ewch amdani bois!
Hoffwn hefyd longyfarch Corn Biff ac R.T.R am gystadlu’n frwd ar y noson a chreu Bwrlwm yn y gynulleidfa ym Merthyr!
Cynllun Cyfnewid Ieuenctid y 4 Cornel Mae grŵp o bobl ifanc brwdfrydig o Abertawe wedi bod yn gweithio gyda’u cyfoedion yng Ngogledd Cymru, Gweriniaeth a Gogledd Iwerddon ar gynllun cyfnewid rhyng-ddiwylliannol. Bydd y bobl ifanc yn archwilio tebygrwydd a gwahaniaethau o safbwynt hunaniaeth mewn meysydd fel diwylliant, iaith, crefydd a’r syniad o berthyn o fewn y gymuned Geltaidd.
Fel rhan o Gynllun Cyfnewid Ieuenctid y 4 Cornel, mae’n fwriad i drefnu cyfres o ymweliadau rhwng grwpiau o bobl ifanc o Abertawe, Conwy - Gogledd Cymru, Dinas Corc - Gweriniaeth Iwerddon a Swydd Down yng Ngogledd Iwerddon.
Mae grŵp o 10 o bobl ifanc o Abertawe sydd rhwng 14-21 oed yn ymwneud a’r bartneriaeth ar ôl trefniadau rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Menter Iaith Abertawe; byddant yn ymweld a Belffast ar Orffennaf y 4ydd ar ran gyntaf y daith gyfnewid.
Taith Pentre Ifan
Cafodd Bentre’ Ifanc gnoc enfawr gan lu o bobl ifanc o Ysgol Gwyr a Bryn Tawe'r wythnos ddiwethaf. Pwrpas y daith oedd gwobrwyo criw GYTS am ei gwaith caled dros y misoedd diwethaf ar brosiect creu llyfr a DVD i ddathlu 25 mlwyddyn o hanes Gwyr. Cafodd y bobl ifanc brofiad o goginio bwyd ar y Traeth wrth weld yr haul yn machlud yn braf ar draeth Trefdraeth gan ddychwelyd yn ôl i Bentre' Ifan i gynnal Eisteddfod Ddwl a gweithgaredd Her Camera.
Gorffennodd y daith gyda wâc ( wel trip ar y bws ) i weld Cromlech Pentre’ Ifan yna draw i Oakwood am hwyl a Sbri ar y chwyrligwganod wrth i ambell berson ifanc mentrus fentro ar Virtigo!!!
Taith TafodGig yn Milkwoodjam
15/05/09 7.30pm Mynediad £5
Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.cymdeithas.org GYG 30/01/09Yn Milkwoodjam
|
|