Cyffwrdd y Garreg

Aeth y Fenter i’r mynyddoedd unwaith eto, y tro hwn ar gwrs hyfforddiant er mwyn i dri aelod o staff ennill cymhwyster Gwobr Dringfa Un Rhaffiad(SPA). Mae’r Gwobr Dringfa Un Rhaffiad yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn goruchwylio grwpiau o ddringwyr dibrofiad, gan roi hyfforddiant ar sut i drefnu a goruchwylio sesiynau diogel, effeithiol a difyr ar greigiau Dringfa Un Rhaffiad dan do ac yn yr awyr agored.
Wedi llwyddo i ddod lawr oddi ar y creigiau’n ddiogel, y cam nesaf yw trefnu mwy o sesiynau dringo er mwyn eu cofnodi ar gyfer asesiad yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar yr her hon, mae canolfan ddringo newydd wedi agor yng Nghlydach, a elwir yn y “Dynamic Rock”.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan www.dynamicrock.co.uk neu cysylltwch â’r Fenter er mwyn siarad ag aelod o’r staff.

06/04/2006