Menter Caerdydd

hybu'r iaith yn lleol

Cymorth.com Llinellau Ffôn Cymraeg


 





Newyddion 1

Cyrsiau Cymraeg, Coleg Abertawe

Cyrsiau Cymraeg, Coleg Abertawe
Mae’n bosibl cofrestru ar-lein nawr! Ewch i: http://www.swancoll.ac.uk/ptcourses/Welsh

Bydd pawb sy’n cofrestru ar gwrs Mynediad, Sylfaen neu Ganolradd erbyn 31ain Gorffennaf yn derbyn tocyn llyfr gwerth £10.

Hefyd gallwch gofrestru yng nghampws Tycoch.
31/07/2009

GYG y Glas codi arian ar gyfer Eisteddfod Yr Urdd 2011

GYG y Glas codi arian ar gyfer Eisteddfod Yr Urdd 2011
Cynhaliwyd Gig y Glas i godi arian at Eisteddfod yr Urdd 2011 yn Nhŷ Tawe ar y 26ain o Fehefin eleni. Trefnwyd y gig gan bwyllgor bobl ifanc yr Urdd a hoffwn ddiolch i’r 3 band, Yr Angen, R.T.R a Llygredd Sŵn am Rocio’r Tŷ yn Nhŷ Tawe drwy’r nos.
Daeth nifer o bobl ifanc o Fryn Tawe, Ystalyfera a Gŵyr ar y noson ac mae’r pwyllgor a threfnwyr y fenter yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y gweithgaredd codi arian nesaf.
GYG y Glas codi arian ar gyfer Eisteddfod Yr Urdd 2011
26/06/2009

Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg i Oedolion?

Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg i Oedolion?
Ydych chi’n berson brwdfrydig ac yn gallu siarad Cymraeg?

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru yn gyfrifol am holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro Abertawe a
Chastell-nedd Port Talbot.
Ni ellir cynnal y rhaglen eang o gyrsiau heb gymorth nifer fawr o diwtoriaid.
Cynigir dau gwrs hyfforddiant yn ystod 2009/10 gan y Ganolfan i diwtoriaid sydd ag ychydig o brofiad neu’r rhai fyddai’n hoffi dechrau gweithio fel tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Lleolir y cyrsiau yn Abertawe a Sir Gaerfyrddin/Sir Benfro.
Am fwy o wybodaeth am y cyrsiau neu am ffurflen gais, cysylltwch a Caryl Clement ar 01269 860555, j.c.clement@abertawe.ac.uk
31/07/2009

Taith Pentre Ifan

Taith Pentre Ifan

Cafodd Bentre’ Ifanc gnoc enfawr gan lu o bobl ifanc o Ysgol Gwyr a Bryn Tawe'r wythnos ddiwethaf. Pwrpas y daith oedd gwobrwyo criw GYTS am ei gwaith caled dros y misoedd diwethaf ar brosiect creu llyfr a DVD i ddathlu 25 mlwyddyn o hanes Gwyr. Cafodd y bobl ifanc brofiad o goginio bwyd ar y Traeth wrth weld yr haul yn machlud yn braf ar draeth Trefdraeth gan ddychwelyd yn ôl i Bentre' Ifan i gynnal Eisteddfod Ddwl a gweithgaredd Her Camera.
Gorffennodd y daith gyda wâc ( wel trip ar y bws ) i weld Cromlech Pentre’ Ifan yna draw i Oakwood am hwyl a Sbri ar y chwyrligwganod wrth i ambell berson ifanc mentrus fentro ar Virtigo!!!
Taith Pentre Ifan
24/06/2009



@bertaw-e
Cofrestrwch i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau Cymraeg
e-bost digwyddiadau
menter abertawe

Mae gen ti ddewis

Digwyddiadau

Cylch Trafod Llyfrau
Nos Lun 6ed o Orffennaf yn Nhafarn Yr Uplands. Y llyfr fydd 'Dolenni Hud' gan Owen Martell.( Gwasg Gomer) DOLENNI HUD Chwe stori gan Owen Martell wedi'u lleoli mewn trefi 'Cymreig' yn UDA gyda ffotograffau trawiadol
Tafarn yr Uplands
19.00 Dydd Llun 06/07/2009

Stomp
Pwyllgor Llen, Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011 Stompfeistr: Tudur Dylan Jones Stomp Iau- Disgyblion Ysgolion Gwyr a Bryn Tawe Stomp i ddilyn yng nghwmni- Heini Gruffudd, Tudur Hallam, Mererid Hopwood, Christine James, Emyr Lewis, Geraint Morgan, Robat Powell, Geraint Roberts, Eurig Salisbury. Nos Iau, Gorffennaf 9fed £4 i oedolyn, £2 i blentyn Tocynnau o Ysgol Bryn Tawe (01792) 560600 neu o’r Pwyllgor 07801 270096
Glamorgan Arms, Pontlliw
19.00 Dydd Iau 09/07/2009

Cyfarfod Blynyddol Menter Iaith Abertawe 2009
Siaradwr Gwadd - Catrin James, Urdd Gobaith Cymru “Llwybr i’r Copa” Hoffwn eich gwahodd i Gyfarfod Blynyddol Menter Iaith Abertawe yn Nhy Tawe ar nos Lun, Gorffennaf 13 2009, yn dechrau am 7 o’r gloch. Bydd bwyd ar gael yn ystod y cyfarfod. Os hoffech chi fynychu’r cyfarfod, neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Menter Iaith Abertawe, neu e-bostiwch swyddfa@menterabertawe.org Datganiad Cenhadaeth Menter Iaith Abertawe “Hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy hybu ei defnydd a’r cyfleoedd i’w defnyddio i bawb o bob oedran, cefndir ac iaith a gwneud y Gymraeg yn gyraeddadwy i bobl Abertawe a Chymru.”
Ty Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe. SA1 4EW
19.00 Dydd Llun 13/07/2009

Taith Gerdded Gorffennaf
Cwrdd yn maes parcio (di-dal) 'The Angel' ym Mhontneddfechan am 10.00 o'r gloch. Taith i weld Sgwd Gwladys (2 filltir i gyd- bydd y cerdded yn hawdd hyd at y sgwd) Wedyn bydd y cyfle i weld 2-3 sgwd arall (2 filltir ychwanegol gyda'r cerdded yn fwy anodd). Arweinydd y Daith: Noel Lewis
Maes parcio ' The Angel', Pontneddfechan
10.00 Dydd Sadwrn 18/07/2009

Cyrsiau Cymraeg, Coleg Abertawe
Mae’n bosibl cofrestru ar-lein nawr! Ewch i: http://www.swancoll.ac.uk/ptcourses/Welsh Bydd pawb sy’n cofrestru ar gwrs Mynediad, Sylfaen neu Ganolradd erbyn 31ain Gorffennaf yn derbyn tocyn llyfr gwerth £10. Hefyd gallwch gofrestru yng nghampws Tycoch.

Dydd Gwener 31/07/2009


Top a a a

Ewrop

a