Gig Dewi Pws a Radwm
Cafwyd noson wych yn Nh? Tawe ar nos Wener 16 Rhagfyr, gyda Dewi Pws a Radwm yn perfformio’n fyw. Braf oedd gweld cymaint o wynebau newydd yno, a brafiach fyth oedd gweld cynifer o bobl yn mwynhau a dawnsio i glasuron fel Mynd Nôl i Flaenau Ffestiniog a Lleucu Llwyd! Diolch i bawb sydd wedi cefnogi ein gigs yn ystod y flwyddyn, ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu yma yn amlach yn 2012!
21/12/2011





