PARTI 'DOLIG Y PLANT
Roedd Parti Dolig y Plant yn llwyddiant ysgubol eleni eto, gyda 28 (a mwy) o blant yma yn mwynhau. Cafwyd bore o hwyl a sbri gyda gemau, gweithgareddau celf a chrefft, a chyfle i gael darn o gacen Nadolig. Uchafbwynt y parti heb os oedd ymweliad gan y dyn ei hun - Si�n Corn, ac roedd ganddo anrheg i bob un o�r plant, chwarae teg iddo. Roedden nhw wrth eu boddau!
11/12/2012





