Cyfranogwyr y prosiect 4 Cornel yn dathlu Noson Calan Gaeaf
yng nghanolfan hamdden Trabolgan ger Corc, Iwerddon.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae oddeutu 40 o bobl ifanc 14-17 oed o ardaloedd Abertawe, Llanrwst yng Ngogledd Cymru, Corc yng Ngweriniaeth Iwerddon, a Newton Ards yng Ngogledd Iwerddon wedi bod yn rhan o brosiect cyfnewid diwylliannol ‘ Y 4 Cornel’. Ddiwedd Hydref eleni fe gynhaliwyd rhan olaf y daith i’r 4ydd Cornel, sef Corc. Ymunodd 6 o bobol ifanc o Abertawe â phobl ifanc o’r tair ardal arall yng ngwersyll Trabolgan ger Corc i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau fel chwaraeon, gweithdai arbennig fel yr un gyda chwmni theatr Snatch o Gorc, ac ymweliadau diddorol. Cafwyd blas o hanes Corc gydag ymweliad a charchar oedd yn dyddio nol i’r unfed ganrif ar bymtheg, ac ymweliad a’i fan ble gadawodd y Titanic ar ei mordaith olaf yn 1911 ynghyd a hanes rhai o’r teithwyr yn yr amgueddfa. Yn ystod y daith gyntaf â Belfast cafodd y bobl ifanc weld ble cafodd y Titanic ei hadeiladu, roedd gweld ble gadawodd y llong o Corc yn ddiweddglo felly i hanes trasig y fordaith. Cafodd y bobl ifanc flas ar gawl Gwyddelig dros arlwy o gerddoriaeth Wyddelig a gosodwyd her i’r bobl ifanc i chwarae`r gamp draddodiadol o Hyrlio yng nghlwb y gamp yn Corc sydd wedi gweld dros 30 o fuddugoliaethau pencampwriaeth y campau Gwyddelig.
Gan ei bod wedi hi yn Noson Calan Gaeaf yn ystod ein hymweliad cawsom barti gwisg ffansi liwgar (gweler y llun).

Pobl ifanc Abertawe ymhlith criw prosiect 4 Cornel ar risiau
carchar hanesyddol Corc sydd bellach yn amgueddfa i`r cyhoedd.
Cafodd y bobl ifanc gyfle hefyd i lunio murlun arbennig fydd yn cael ei osod nghlwb ieuenctid Corc. Roedd y gwaith celf yn bortread creadigol o daith y bobl y bobl ifanc o’r ymweliadau ddringo yn Belfast, canŵio a cherdded o dan y sêr yng Nglan Llyn, syrffio yn Abertawe yn ogystal a`r holl brofiadau ar y daith yn Corc.
Soniodd Sophie Skyrme, myfyrwraig yn Ysgol Gyfun Gŵyr fod y daith... “Wedi bod yn gyfle gwych i godi hunan- hyder, i gwrdd a siarad gyda phobol ifanc o wahanol ardaloedd ac i ffurfio cyfeillgarwch oes gyda’r bobol ifanc”. A fyddai hi eisiau yr un profiad eto? “Yn bendant.”, meddai Sophie “. Disgrifiodd y criw o Abertawe y daith i Gorc fel diweddglo addas i brofiad ‘trawsnewidiol’. Collwyd rhai dagrau ar ddiwrnod olaf y daith ond dagrau o lawenydd yn ogystal a thristwch oedd rhain am daith sy`n mynd i liwio dyfodol y bobl ifanc mewn mwy nag un ffordd.
Mae oddeutu 40 o bobl ifanc 14-17 oed o ardaloedd Abertawe, Llanrwst yng Ngogledd Cymru, Corc yng Ngweriniaeth Iwerddon, a Newton Ards yng Ngogledd Iwerddon wedi bod yn rhan o brosiect cyfnewid diwylliannol o’r enw ‘ Y 4 Cornel’ yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Menter Iaith Abertawe yn gweithio ar y prosiect mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Ieuenctid Abertawe ar ôl sicrhau cyllid gan y Cyngor Prydeinig.
Mae’r criw eisoes wedi ymweld â Gogledd Iwerddon a Gogledd Cymru, ac yn ymweld â Abertawe ym mis Gorffennaf. Bydd y criw yn cael cyfle i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Bae Caerdydd yn ogystal â thaith i Benrhyn Gŵyr ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Cafodd criw Abertawe gyfle i ymweld a Maes Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe y mis diwethaf wrth iddyn nhw baratoi i groesawi eu ffrindiau Celtaidd.
|