Cymraeg, Kids Soak It Up - Abertawe Bu Mis Chwefror yn fis prysur iawn i Fenter Iaith Abertawe.
Roedd aelodau’r staff yn hyrwyddo manteision dwyieithrwydd yn y blynyddoedd cynnar ar draws Abertawe fel rhan o ymgyrch Bwrdd yr Iaith Gymraeg; “Kids Soak It Up”.
“Mae plant bach yn dysgu iaith yn rhwydd. Maen nhw’n sugno iaith fel mae sbwng yn sugno dwr” - dyna neges Bwrdd yr Iaith Gymraeg trwy’r prosiect, Cymraeg - Kids Soak It Up!
Cynhaliwyd nifer o weithgareddau gan gynnwys ymweliad a dau ysbyty lleol, Clinigau Ol-enedigol y Sir, yr LC2 a Chanolfan Plant Penlan.
Yn ogystal a hyn, trefnwyd Sesiwn Canu Gyda Babi o dan arweiniwyd Swyddog Maes TWF yn Llyfrgelloedd Pontarddulais a Townhill.
Lansiwyd sesiwn misol Canu Gyda Babi yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, lle ymunodd Sam Tan a Sali Mali yn y gweithgareddau. Roedd yna gyfle i gael tynnu llun o’ch plentyn a chael pecynnau llawn gwybodaeth a nwyddau defnyddiol ar ol y canu.
Hefyd cafwyd hwyl yn nathliadau’r Prynhawn Plant ar 7 Mawrth, yn Nhy Tawe. Bu Sam Tan yn cyfarch y plant a cafwyd hwyl yn y sioe Jambori!

13/03/2009
|
Pnawn Plant Dewch am brynhawn o hwyl a sbri yn Siop Ty Tawe a'r Lolfa.
Bydd yna sioe gonsurio gan 'Crazy Clayton', peintio wynebau, Cymeriadau Sam Tan a Sali-Mali, storiau i blant a ffynon siocled!
20/09/08, 1-4pm, Am Ddim!
Ty Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW
20/09/2008
|
|
|
Cylch Ti a Fi Gendros Dydd Iau, 9.30 – 11.30
Neuadd Gymunedol Gendros, Gendros Avenue East, Gendros
Am fanylion, cysylltwch a Sioned (Swyddog Ti a Fi Teithiol Abertawe, MYM) 07966 348788
11/12/2008
|
Hwyl Haf Celf a Chrefft, Helfa Drysor, Gemau Dwr, Sioe Dalentau, Gemau Chwaraeon a llawer mwy!
28/07/2008
|
|
|