
Tŷ Tawe,
9, Stryd Christina,
Abertawe,
SA1 4EW.
Ffôn: 01792 460906
Ffacs: 01792 480964
Cyfieithydd Cymunedol: 01792 652252
Ebost: Swyddfa@menterabertawe.org
Gwefan: menterabertawe.org
![]()
Bu rhywfaint o ddatblygiad yn ystod misoedd olaf y flwyddyn ariannol
05-06 gyda phwyllgor rheoli’r Fenter yn ehangu’n sylweddol i gynnws Gweithgor
Datblygu’r Fenter. Mae pwyllgor rheoli’r Fenter ar ei newydd wedd yn cwrdd yn
ddeufisol i drafod gweithgarwch a datblygiad y Fenter. Mae’r Fenter bellach yn
adrodd yn ôl yn ddeufisol i’r pwyllgor rheoli hwnnw yn hytrach nag i bwyllgor Tŷ Tawe, er bod
Prif Swyddog y Fenter yn dal i fynychu cyfarfodydd pwyllgor Tŷ Tawe gan fod
Cymdeithas Tŷ Tawe yn parhau
i fod yn gyflogwyr swyddogol y Fenter. Teimlwyd, â gweithgarwch y Fenter yn
datblygu ac yn cynyddu, fod hefyd angen i’r pwyllgor ehangu i roi cyfle i
werthuso a thrafod gwaith y Fenter yn gyflawn.
Ni fu newidiadau mawr o ran
Swyddogion y Fenter yn ystod 05-06, ar wahân i Swyddog Busnes y Fenter.
Dechreuodd Emma Francis fel Swyddog Busnes rhan amser ym mis Gorffennaf 05, ond
daeth ei chyfnod cyflogaeth i ben ym mis Rhagfyr yn dilyn y ffaith iddi dderbyn
swydd amser llawn gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Daeth Lucie Grey i barhau â’r
gwaith dros y Nadolig, a hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol, pan ddaeth y nawdd
ar gyfer y gwaith i ben. Hoffai’r Fenter ddiolch yn fawr iawn i Emma am ei
chyfraniad gwerthfawr i’r gwaith yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn ariannol ac i
Lucie am barhau â’r gwaith da ar ôl y Nadolig.
Gorfodwyd i’r Fenter hefyd leihau
oriau gweithio’r Swyddog Gweinyddol, Llywelyn Rees, o ganlyniad i ddiffyg
nawdd. Mae’r Swyddog Gweinyddol bellach yn gweithio 30 awr yr wythnos.
Croesawyd Gethin Jones, sy’n
weithiwr ifanc dan hyfforddiant gyda’r CGGA, i’r tîm. Gosodwyd Gethin gyda’r
Fenter am gyfnod o 6 mis i weithio ar brosiect arolygu gwasanaethau Cymraeg yn
ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Abertawe. Mae ei gyfnod profiad gwaith gyda’r
Fenter wedi cael ei ymestyn tan ddiwedd Mai 06, i’w alluogi i ddatblygu ei
sgiliau ymhellach. (gw. gweithgaredd newydd).
Mae’r ddau Swyddog Maes, Swyddog Cymraeg
yn y Gymuned, Cymraeg Morgannwg a’r Cyfieithydd Cymunedol yn aros yr un peth.
Ariannwyd y swyddi hyn drwy nawdd Bwrdd
yr Iaith, Amcan 1 Ewrop, Cronfa
Treftadaeth y Loteri, Awdurdod Datblygu Cymru, Better Swansea Compact
Development Fund a bellach cyfraniad gan y Cyngor Sir trwy eu cronfa ‘Cefnogi’r Iaith Gymraeg’.
Diweddarwyd y strategaeth yn ystod y flwyddyn. Mae’r system werthuso blynyddol
hefyd yn parhau’n effeithiol. Mae gwaith y Fenter o ddydd i ddydd yn cael ei
reoli gan y Prif Swyddog ac yn cael ei rannu a’i werthuso mewn cyfarfodydd
staff a chyfarfodydd gwaith gydag unigolion.
Mae gweithgorau’r Fenter wedi bod yn weithgar dros y flwyddyn
ddiwethaf. Cwrddodd gweithgor y
dysgwyr sawl gwaith (gw. Noson Dim Treiglo a Phecyn Gwybodaeth Dysgwyr), parhaodd
y gweithgor ieuenctid/Eisteddfod i gwrdd a chyfrannu at drafodaethau
ynglŷn â’r gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Fel y nodwyd, mae gweithgor datblygu’r Fenter bellach yn ffurfio pwyllgor rheoli’r
Fenter a chyfrannodd yn werthfawr at ymgyrch marchanata Addysg Bwrdd yr Iaith a
thrafodaeth am gylchlythr newydd y Fenter. Mae gweithgor
y Gorllewin a gweithgor y Dwyrain, heb gwrdd yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf, gan fod nifer o’r aelodau yn brysur yn paratoi ar gyfer yr
Eisteddfod, ond mae’r awydd i gydweithio i ddatblygu prosiectau penodol yn yr
ardaloedd hynny yn dal i barhau.
Mae’r Fenter yn ddiolchgar iawn i’r 50 o wirfoddolwyr sydd wedi cyfrannu
at weithgareddau’r Fenter drwy gyfrwng y gweithgorau hyn yn ystod y flwyddyn.
Parhaodd llwyddiant nosweithiau Gwener y Grolsch 04-05 ymlaen i
06 gyda’r niferoedd yn uchel yn gyson. Cafwyd ambell i noson dawel yn benodol
erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gydag amgylchiadau fel dyddiad, arholiadau a’r
Eisteddfod (a’i nosweithiau codi arian cyson) yn effeithio. Mae’r nosweithiau
hyn yn parhau i ddarparu cyfle i Gymry Cymraeg ifanc Abertawe ddefnyddio’r
iaith yn eu hamser hamdden, fodd bynnag, ac maent wedi codi ymwybyddiaeth Cymry
Cymraeg ifanc o’r sîn roc Cymraeg. Mae’r nosweithiau hefyd wedi denu sylw
cenedlaethol â’r rhaglen ‘Waw Ffactor’ yn ffilmio yn Nhŷ Tawe. Mae Cyngor y Celfyddydau a’r Cyngor Sir
wedi parhau i roi’r cymorth ariannol angenrheidiol sydd ei angen arnom i sicrhau
ein bod yn denu bandiau o safon, a’r bandiau y mae’r bobl ifanc yn disgwyl eu
gweld. Mae’r cytundeb blynyddol i
ariannu’r nosweithiau yn parhau ac yn ein galluogi i drefnu a chynllunio
nosweithiau misoedd o flaen llaw.
Mae prif amcan y nosweithiau yn aros yr un peth, sef cyflwyno
cerddoriaeth gyfoes Gymraeg i bobl ifanc y sir a chreu cyfleoedd i grwpiau
Cymraeg eu hiaith chwarae yn gyhoeddus o flaen cynulleidfa gwbl newydd ac am
dâl da. Gwnaeth y Fenter £250 o incwm yn ystod y flwyddyn, sy’n llai na’r flwyddyn
flaenorol. Mae yna reswm da am hyn, oherwydd rydym wedi talu am fandiau
cynorthwyol ar gyfer nifer o’r nosweithiau ac yn dilyn newidiadau yng nghytunteb
y Cyngor Sir a’r Cyngor Celfyddydau, mae gofyn i ni dalu holl arian y drws yn
ôl. (Yn flaenorol, roedd modd i ni gadw £2 o bob tocyn yn ôl fel incwm). O ran
y bandiau cynorthwyol, mae’r cyfle y mae’r Fenter yn rhoi iddynt berfformio yn
rhoi llwyfan i fandiau ifanc sy’n chwilio am brofiad o chwarae o flaen
cynulleidfa fyw e.e. enillwyr Brwydr y
Bandiau 05, ‘No Star’.
Mae’r nosweithiau yn dal i ddenu pobl ifanc o’r chweched
dosbarth ac maent yn parhau i fod â diddordeb mewn trefnu nosweithiau eu hunain,
er ein bod yn ymwybodol na ddylwn ddibynnu’n ormodol ar un garfan o bobl yn
unig.
Cynhaliwyd 7 noson gymdeithasol yn ystod y flwyddyn.
|
Dyddiad / Band |
Niferoedd |
Cyllid |
|
15
/ 4 / 05 Texas
Radio Band Radio
Luxembourg MC
Saismundo |
71 |
£284
( 71 x £4 ) £142
i’r Cyngor £142
i’r Fenter £25
i staff y bar ( Tŷ Tawe ) £500
i’r bandiau ( Noson Allan ) £50
i’r bandiau ( Menter Iaith ) Elw
= £92 |
|
28
/ 5 / 05 Winebago |
17 |
£68
( 17 x 4 ) £34
i’r Cyngor £34
i’r Fenter £25
i staff y bar ( Tŷ Tawe ) £350
i’r band ( Noson Allan ) Elw
= £34 |
|
16
/ 9 / 05 Frizbee Cwn
Poeth |
90 |
£360
( 90 x 4 ) £150
i’r Cyngor £210
i’r Fenter £25
i staff y bar ( Tŷ Tawe ) £400 i’r bandiau
( Noson Allan ) £50 i’r bandiau (
Menter Iaith ) £100 elw i GYTS (
Menter Iaith ) Elw = £60 |
|
25
/ 11 / 05 Poppies Coda |
48 |
£192
( 48 x 4 ) £150
i’r Cyngor £42
i’r Fenter £20
i staff y bar ( Tŷ Tawe ) £300
i’r band ( Noson Allan ) £100
i’r band arall ( Menter Iaith ) Colled
= £58 |
|
16
/ 12 / 05 Caryl
Parry Jones |
100 |
£800
( 100 x 8 ) £800
i’r Fenter £25 i staff y bar
( Tŷ Tawe ) £750 i’r band (
Menter Iaith ) Elw = £50 |
|
10
/ 2 / 06 Genod
Droog |
30 |
£120
( 30 x 4 ) £120
i’r Fenter £25
i staff y bar ( Tŷ Tawe ) £120
i’r band ( Menter Iaith ) Elw
= 0 |
|
24
/ 2 / 06 No
Star Merched
Mecca |
39 |
£156
( 39 x 4 ) £150
i’r Cyngor £6
i’r Fenter £25
i staff y bar ( Tŷ Tawe ) £300
i’r band ( Noson Allan ) £50
i’r band arall ( Menter Iaith ) Colled
= £44 |
Clybiau Gwyliau
Cynhaliodd y Fenter 4 clwb gwyliau yn ystod y flwyddyn, â nawdd gan Adran
Ddatblygu Chwarae'r Cyngor Sir, ac o gyllid y Fenter ei hun. Mae’r clybiau hyn
yn gyfle gwych i blant siarad Cymraeg yn ystod eu horiau hamdden. Yn ogystal â hyn, mae’n gyfle gwych i’r
Fenter gynnig gwaith rhan amser i bobl ifanc y sir drwy gyfrwng gweithdai neu
ofal plant.
Mae’r Fenter wedi parhau i fynychu cyfarfodydd y Bartneriaeth Chwarae’n
gyson, ac rydym bellach ar y gweithgor penderfynu grantiau ac wedi llwyddo i
barhau â’r nawdd blynyddol trwy’r bartneriaeth. Mae hyn yn ein galluogi i
barhau â’n darpariaeth cyfrwng Cymraeg i blant Abertawe yn ystod y gwyliau.
(Haf, Pasg, 2 hanner Tymor).
Treialwyd system newydd yn ystod 04-05 o gynnal gweithgareddau hwyl i
blant y sir yn y Gorllewin a’r Dwyrain er mwyn ceisio darparu ar gyfer cymaint
o blant ag sydd yn bosibl. Er bod y niferoedd yn parhau i fod yn gymharol isel
yn 05-06, rydym yn sicr bod y system o symud y ddarpariaeth o un ysgol i’r
llall, yn hytrach na chanolbwyntio ar un ardal yn unig, yn gweithio. Trwy
gynnal gweithgareddau mewn clwstwr o ysgolion, rydym yn denu plant o’r ardaloedd
cyfagos.
Rydym yn monitro llwyddiant y clybiau yn gyson drwy holiaduron i rieni
a’r staff a thrwy ymgynghoriadau gyda’r plant.
Cyfnod
|
Lleoliad
|
Nifer y plant |
staff |
Pris i’r plant |
Haf 2005
(4 wythnos)*
|
Pontarddulais, Lon Las, Pontybrenin, Gellionnen |
Cyfartaledd W1 – 12 W2 – 15 W3 – 12 W4 - 8 |
4 |
£3 |
|
Hanner
tymor 05 (4 dydd) |
Lon Las, Penllergaer |
Cyfartaledd – 6 y dydd |
3 |
£3 |
|
Hanner
tymor 06 (4 dydd)** |
Lon Las, Brynymor |
Cyfartaledd - 8 |
3 |
£3 |
Clybiau @
Mae datblygiad 4 clwb ieuenctid y Fenter, sy’n cael eu hariannu trwy
nawdd y Cymorth y Cyngor Sir wedi bod
yn wahanol iawn yn ystod 05-06.
Aelwyd yn y Bont yw’r aelwyd
fwyaf llwyddiannus gyda 26 yn dod ar gyfartaledd pob wythnos. Cynyddodd y niferoedd
hyn yn ystod y flwyddyn. Mae’r staff yn ardderchog ac wedi manteisio o’r
hyfforddiant y mae’r Fenter wedi cynnig.
Ar nos Fercher mae yna ddwy aelwyd yn cwrdd, sef un ym Mhenlan,
ac un yng Nghlydach. Mae’r aelwyd ym Mhenlan ar gyfer plant rhwng 8 a 13. Mae’r rhan fwyaf sy’n mynychu’r aelwyd yn
oedran cynradd. Aeth yr aelwyd trwy gyfnod eithaf bregus o ran niferoedd, ond
gydag ymgyrch farchnata yn yr ysgolion, cynyddodd y niferoedd eto i ryw 12 ar
gyfartaledd yn wythnosol.
Yng Nghlydach, mae’r Aelwyd a ddatblygodd yn wahanol
iawn i’r aelwydydd eraill y llynedd oherwydd bod oedrannau’r bobl ifanc wedi
mynd o nerth i nerth, o ganlyniad i weithgareddau Gwobrau Dug Caeredin a
chydweithio gyda chydlynydd Cymunedau’n Gyntaf Graigfelen ar brosiect
celfyddydol (gw. Amcan 1) . Mae hyn wedi
caniatáu i’r aelwyd wneud mwy o weithgareddau amrywiol. Ar gyfartaledd, 11 sy’n
mynychu’r aelwyd.
Yn Nhreforys, er nad yw’r adeilad yn gweddu’n arbennig o
dda ar gyfer yr aelwyd oherwydd yr offer sydd yno ar gyfer y corau, yr ysgolion
Sul a’r Meithrin sy’n cwrdd yno hefyd, mae’n ganolog i’r bobl ifanc ac yn
gyfleus o ran mynychu lleoliadau awyr agored e.e. y parc cyfagos neu feicio ar
hyd afon Tawe yn ystod yr haf. Am ryw
reswm, dim ond bechgyn sydd yn mynychu’r clwb hwn ac mae ei natur, o ganlyniad,
rhywfaint yn wahanol i’r clybiau eraill. Mewn ymateb i hyn, aethpwyd ati i
ddatblygu sgiliau dringo’r bobl ifanc trwy dripiau cyson i ganolfan ddringo
Clydach. Ar gyfartaledd mae 9 yn mynychu clwb Treforys.
Mae’r bobl ifanc o’r holl aelwydydd (tua 60 i gyd) wedi
manteisio ar ddewis eang o dripiau a theithiau gyda’r Fenter yn ystod tymhorau
ysgol y flwyddyn ddiwethaf. Dyma deithiau lleol tebyg i’r Sinema, Mega Bowl,
Lazer Zone, Play Zone, sgïo ym Mhembre, a thripiau pellach i saethu paent yn
Nhrimsaran, i Gaerdydd i siopa Nadolig, sglefrio iâ , a mynd i gêmau rygbi, a
hefyd mor bell â Llundain i weld y Sgarlets yn chwarae. Mae nifer fawr o’r teithiau hyn wedi bod mewn
partneriaeth â mentrau cyfagos megis
Mae’r Fenter wedi derbyn arian i barhau â’r aelwydydd ar gyfer
y flwyddyn nesaf ac mae’r hyfforddiant ieuenctid yn parhau i redeg yn llwyddiannus
ar hyn o bryd i ddatblygu’r staff i redeg yr aelwydydd. Gobeithiwn gynnal mwy o dripiau dros y
flwyddyn nesaf, yn cynnwys tripiau dros nos.
Gwersi Syrffio
Yn dilyn llwyddiant y gwersi syrfio y llynnedd, gwnaethpwyd ail
gytundeb gydag Uned Chwaraeon y Cyngor a Gower
Surf Development i drefnu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg fel rhan o
weithgarwch canolog y Cyngor Sir. Cafodd
15 o bobl ifanc y cyfle i gymryd rhan yn y gweithgareddau fel rhan o gynllun “Skools
Out” y Cyngor. Cynorthwywyd tîm “Skools Out” gyda’u gwaith hyrwyddo
yn ysgol gynradd Bryn-y-môr mewn cydweithrediad â’r orsaf radio ‘The Wave’
a threuliwyd 4 diwrnod llawn yn syrffio un ai yng Nghaswel neu yn Llangennith
gyda’r bobl ifanc yn talu £10 a’r Cyngor yn talu gweddill y costau.
Mae’r syrffio wedi denu criw newydd o bobl ifanc i weithgareddau’r
Fenter, ac yn dangos bod modd ymgymryd â gweithgareddau anarferol a newydd trwy
gyfrwng y Gymraeg. Mae’r berthynas
rhyngom ni â’r cwmni syrffio hefyd yn ffrwythlon o sawl safbwynt, gyda nhw’n
cymryd camau i Gymreigio’r cwmni o werthfawrogi’r budd ariannol mae’r Gymraeg
yn ei greu. Â’r
Eisteddfod yn dod i Abertawe yn 2006 mae’r cwmni’n awyddus i gydweithio gyda’r
Fenter ar arddangosfa syrffio ar faes yr Eisteddfod.
Dysgwyr: Noson
Dim Treiglo
Parhawyd gyda’r nosweithiau cymdeithasol yma i ddysgwyr yn dilyn
llwyddiannau’r nosweithiau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r nosweithiau yn parhau
i fod yn rhannol strwythuredig, gyda gweithgaredd a fyddai’n rhoi cyfle i
ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg beth bynnag fo’u gallu ieithyddol. Mae’r pwyslais,
fodd bynnag, yn dal i fod ar fwynhad anffurfiol, gan roi cyfle i ddysgwyr da
sgwrsio yn Gymraeg a dysgwyr newydd i gwrdd â dysgwyr eraill.
Er bod y noson ym mis Tachwedd yn llwyddiannus, gyda 45 o ddysgwyr
newydd yn mynychu’r gweithgaredd, ni ddangoswyd yr un brwdfrydedd wrth i ni
fynd ati i drefnu digwyddiad ym mis Mawrth. Mae’r cyfnod ar ôl y Nadolig o hyd
yn anodd gyda nifer y dysgwyr fel rheol yn lleihau. Hefyd, teimlwyd yn
gyffredinol trwy ymgynghori â dysgwyr a’r gweithgor dysgwyr bod sylw ac
ymdrechion pawb yn cael eu ffocysu ar yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n mynd i
fod yn dod i Abertawe yn ystod mis Awst 2006.
Aethwyd ati i drefnu cinio Dydd Gŵyl Dewi anffurfiol ar y 1af o Fawrth i godi arian
i’r Eisteddfod a mynychodd 25 o ddysgwyr y caffi lle cafwyd coffi a chacen,
cwis a cherddoriaeth.
Ardaloedd Amcan 1/
Cymunedau’n Gyntaf
Townhill
- Parhawyd â’r gwaith o roi cymorth
i Gylch Ti a Fi Townhill, gan farchnata ar eu rhan a cheisio gwella eu
cysylltiadau â mentrau cymunedol eraill yn yr ardal. Gwnaed cais ar ran y grŵp gwirfoddol i’r Lloyds TSB Foundation i gael arian i
dalu rhent y Ganolfan, costau cofrestri’r cylch a 2 drip. Llwyddwyd i gael £1,200 a bydd hwn yn help
mawr i ddatblygu ac adeiladu ar yr hyn sydd yn bodoli’n barod. Trefnwyd parti
Nadolig yn wythnos olaf y cylch yn Rhagfyr i ddathlu ac i geisio denu mwy o
famau a phlant. Trefnwyd trip i’r Ŵyl Feithrin ac roedd yn hynod lwyddiannus
gyda phawb yn mwynhau mas draw a’r rhieni yn cael y cyfle i weld y cyfleoedd
sydd ar gael i’w plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cylch wedi gweld nifer o
newidiadau staffio dros y flwyddyn, ond bellach mae’n sefydlog gyda dwy
fyfyrwraig o’r brifysgol yn ei redeg. Ond, mae’n dal i fod yn ddibynnol ar
gymorth y Fenter i sicrhau cyllid er mwyn rhedeg y cylch. Mae’r gwaith cefnogol
a roddodd y Fenter iddo wedi cynyddu ymwybyddiaeth y gymuned o’r Gymraeg ac
wedi diwallu anghenion gofal grŵp o rieni sydd yn lleiafrif ieithyddol yn
Townhill.
-
Parhawyd gyda chlwb cinio Cymraeg yn yr ysgol leol i wella sgiliau
ieithyddol y bobl ifanc a hefyd gwella’u hymwybyddiaeth o’r iaith, ond oherwydd
niferoedd isel fe fu’n rhaid gorffen y sesiynau. Fe roddwyd cefnogaeth i’r
athrawes Gymraeg ac mae hithau bellach yn rhedeg clwb bychan yn yr ysgol.*
- Cyfrannwyd at ddiwrnod Cymraeg yr
ysgol gyda sesiynau ymwybyddiaeth iaith a gêmau iaith (gw. Sesiynau Ymwybyddiaeth
Iaith)
- Trefnwyd diwrnod Cymraeg i
ddisgyblion blwyddyn 8 i godi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod ac i gyd-fynd â
chynllun ar y cyd gyda SBREC, pwyllgor apêl Trefansel, Cymunedau’n Gyntaf a’r
ysgol (gweler ‘Gweithgaredd newydd’).
- Parhawyd gyda chlwb jiwdo Bonymaen.
- Crëwyd cysylltiad cryf gyda
Chydlynydd Cymunedau’n Gyntaf yr ardal a derbyniwyd gwahoddiad i fod ar
Bwyllgor Partneriaeth yr ardal. Mae hyn wedi golygu gwell cysylltiadau gyda’r
bobl leol a chodi ymwybyddiaeth o’r Fenter yn y gymuned.
- Parhawyd i gynnal clwb Cymraeg yn
Ysgol Gyfun Pontarddulais, eto er mwyn gwella sgiliau ieithyddol y bobl ifanc a
hefyd gwella’u hymwybyddiaeth o’r iaith.*
- Parhawyd i gydweithio gyda
chanolfan gymunedol Penlan drwy gael presenoldeb ar y pwyllgor gwirfoddol.
- Cefnogwyd 2 daith Twf, un yn
Nhirdeunaw gyda Martyn Geraint a’r llall gyda’r grŵp Triongl yn ysgol Bryn
Tawe.
- Parhawyd i gynnal clwb ar ôl ysgol
Gwyrosydd, a dros amser cytunwyd gyda’r athrawes y byddai hi yn parhau i gynnal
y clwb gyda chymorth y Fenter o ran adnoddau a.y.b. er mwyn rhyddhau amser i
ddechrau clwb newydd mewn ardal wahanol.
- Parhawyd â’r Nosweithiau Dim
Treiglo yn ward Castell, (gw. ‘digwyddiadau cyson’). Roedd y lleoliad hwn yn ddelfrydol gan fod
llawer o wersi Cymraeg i oedolion yn digwydd yn Nhŷ Tawe.
- Trefnwyd parti diwedd tymor ar y
cyd gyda Chlwb Cymraeg y Brifysgol yn Nhŷ Tawe, ac roedd y fformat yma wedi
gweithio’n dda gyda nifer o bobl yno.
- Gweinyddwyd arolwg newydd
o anghenion dysgwyr yn ystod cwrs Haf Hendrefoilan ac fe grëwyd bas data diwygiedig
o’r dysgwyr hyn er mwyn gallu eu hysbysu o gyfleoedd i wella eu Cymraeg.
- Rhoddwyd llawer o gymorth i gaffi
gwirfoddol Tŷ Tawe. Gwnaed ymgyrch farchnata newydd i ddenu mwy o bobl, yn
benodol dysgwyr, i ddod i’r caffi a dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld
y niferoedd yn codi yn raddol ac erbyn hyn mae’n llawn bob wythnos. Parhawyd i
gydlynu’r system rota ar gyfer y gwirfoddolwyr o gangen Abertawe Merched y Wawr
ac i farchnata’n helaeth trwy’r tiwtoriaid, y pecyn dysgwyr (gw. Pecyn Dysgwyr)
a chyrsiau Haf. Cydweithiwyd hefyd gyda’r caffi i drefnu 2 ddigwyddiad, bwffe
mawreddog yn ystod y Nadolig a bore coffi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
- Parhaodd y Gweithgor y Dysgwyr i
gwrdd yn ward Castell (gw. ‘gweithgorau).
- Rhoddodd y Fenter gymorth i
bwyllgor gwirfoddol T Tawe i drefnu
gweithgareddau i’r gymuned yn y Ganolfan Gymraeg. Roedd angen arnynt gymorth gweinyddol a
marchnata ac roedd y Fenter yn gallu manteisio o’i chysylltiadau i wneud
hyn.
- Cynhyrchwyd a dosbarthwyd pecyn
gwybodaeth i ddysgwyr Abertawe mewn cydweithrediad a’r gweithgor dysgwyr. (gw.
Pecyn gwybodaeth i ddysgwyr).
- mynychwyd cyfarfodydd Cymunedau’n
Gyntaf ward Castell a dechreuwyd mynychu pwyllgor cyfathrebu’r grŵp.
- Parhawyd â’r clwb Cymraeg yn Ysgol
Gyfun Penyrheol er mwyn gwella sgiliau ieithyddol y bobl ifanc a hefyd gwella’u
hymwybyddiaeth o’r iaith.*
- Datblygwyd cysylltiadau gyda Swyddog
Datblygu Graigfelen a thrafodwyd nifer o brosiectau posibl. Rhoddwyd help llaw
a chefnogaeth i brosiect gwarchodfa natur yn yr ardal ac fe wnaeth aelwyd@
Clydach weithio ar brosiect celf gyda’r grŵp Cymunedau’n Gyntaf.
- Cefnogwyd yr Ŵyl Feithrin yn Manor
Park, Clydach ac fe drefnwyd stondin y Fenter yno.
Blaenymaes
- Rhoddwyd cyngor
pellach i ganolfan gymunedol ARC ar weithio’n ddwyieithog.
- Drwy
arian a dderbyniwyd gan Fenter a Busnes ceisiwyd dechrau prosiect newydd ym
Mlaenymaes i weithio gyda rhieni o’r ardal sydd yn anfon eu plant i ysgol
Gymraeg (Pontybrenin neu Tirdeunaw) ac i gynnig cyfleoedd i’r plant hynny gymysgu
trwy gyfrwng y Gymraeg yn eu cymuned eu hunain. Yn anffodus, mae wedi bod yn
anodd cael gafael ar y rhieni yma ac mae pob ymdrech hyd yn hyn wedi bod yn
aflwyddiannus.
Clâs / Caemawr
- Mynychwyd fforymau Clâs a
Chaemawr a sicrhawyd lle ar bwyllgor gweithredol y grŵp. Gwaned cyflwyniad ar
yr Eisteddfod ac ar waith y Fenter i fforwm Clâs a datblygodd nifer o
brosiectau o ganlyniad i hynny.
- Aethpwyd â stondin i
Garnifal Clâs-Caemawr ar y cyd gyda phwyllgor apêl Treforys.
- Rhoddwyd cymorth i’r tîm
Cymunedau’n Gyntaf i weithio’n ddwyieithog drwy gyfieithu taflenni, posteri a
dogfennau a rhoi cyngor ar faterion perthnasol eraill.
- Dechreuwyd trefnu gwersi Cymraeg
i’r gymuned i gael eu cynnal yn y cyfnod cyn yr Eisteddfod er mwyn annog mwy o
bobl i fynychu ac i godi ymwybyddiaeth ohoni.
*Clybiau
Amser Cinio
Mae’r clybiau amser cinio, sydd wedi rhoi’r pwyslais ar gyflwyno’r
Gymraeg fel iaith fyw yn hytrach nag iaith pwnc yn unig, wedi bod yn gynllun
llwyddiannus ers blynyddoedd bellach. Mae’r disgyblion ail iaith sydd o
flynyddoedd 7-8 yn treulio 20 - 30mun yn ystod eu hawr ginio yn chwarae gêmau
iaith gyda staff y Fenter. Yn ystod 05-06 diweddarwyd holl ddeunydd y clybiau i
sicrhau ein bod yn cynnig y math o gêmau a oedd yn parhau i fod yn ddeniadol i
bobl ifanc.
|
Ysgol |
Pryd |
|
Penyrheol |
pob pythefnos |
|
Pentrehafod |
pob pythefnos |
|
Cefn Hengoed |
wythnosol |
|
Olchfa |
pob pythefnos |
|
Pontarddulais |
pob pythefnos |
|
Gwyrosydd |
pob pythefnos |
Mae clybiau Penyrheol, Pontarddulais ac Olchfa wedi parhau i
redeg yn arferol. Dechreuodd clwb cinio Pentrehafod yn dda iawn gyda
chefnogaeth gref gan yr athrawon Cymraeg. Serch hyn, cwympodd y niferoedd yn
sylweddol erbyn y Nadolig a chytunwyd gyda’r athrawon fod angen gweithio gyda’r
disgyblion mewn modd gwahanol. Ceir gwybodaeth bellach
am hyn o dan y pennawd ‘Gweithgaredd newydd - Prosiect Pentrehafod’.
Cwympodd niferoedd Cefn Hengoed yn Bonymaen yn sylweddol y
llynedd pan ymunodd blwyddyn 7 newydd â’r clwb. Ond gydag un o’n Swyddogion
Maes yn llwyddo i ennill cymhwyster hyfforddwr jiwdo, ailddechreuwyd y clwb â
llwyddiant mawr. Roedd y drefn newydd o gynnig sesiwn jiwdo a clhwb Cymraeg bob
yn ail wythnos yn gweddu i’r dim i’r disgyblion oedd yn ei fynychu. Dengys hyn
fanteision meddwl yn greadigol wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc, a bod y technegau
trosglwyddo iaith fwyaf annisgwyl yn gallu gweithio! Ar ôl 3 blynedd o redeg
clwb Gwyrosydd, cytunwyd y byddai’n fwy buddiol i’r Fenter gynnig y gwasanaeth
i ysgol newydd. Mae’r clwb bellach yn cael ei rhedeg gan athrawes Gymraeg yr
ysgol.
Prosiect Busnesau Abertawe
Llwyddwyd mewn cais am
Swyddog Busnes rhan amser, i dargedu busnesau lleol yn Abertawe gan
ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd yr Uplands, Sgeti, Castell a Gorseinon i
gynnig cyngor a chymorth iddynt weithio’n fwy dwyieithog. Trwy ymweliadau
unigol gyda pherchnogion a rheolwyr busnesau a mudiadau yn yr ardaloedd dan
sylw, rhoddwyd gwybodaeth ymarferol iddynt ar sut i fynd ati i wella ar
ddarpariaeth ddwyieithog eu sefydliadau. Manteisiwyd hefyd ar y cyfle i godi
ymwybyddiaeth pobl o’r Eisteddfod a’r manteision economaidd posibl i’r busnesau
hynny sy’n cynnig gwasanaeth ddwyieithog. Cydweithiwyd yn agos â Swyddfa’r
Eisteddfod ac â Catrin Stevens, a oedd ar gontract byr gyda Bwrdd yr Iaith i
hyrwyddo’r Eisteddfod i rannu gwybodaeth am y gwaith marchnata a hyrwyddo
helaeth a wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn.
Twristiaeth
Abertawe
Gwnaed cysylltiadau cryf â
fforwm Twristiaeth Abertawe, sydd â 150 - 200 o aelodau o blith busnesau Abertawe yn perthyn idd.
Roedd bod yn aelod o’r fforwm yn gyfle ardderchog i dargedu llawer o fusnesau
ar yr un pryd ac yn gyfle i ni ehangu ein gwybodaeth ni o’r sector preifat yn
Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniadau ar waith y Fenter a’r Eisteddfod, a chyfrannwyd
at gylchlythyr y Fforwm yn ystod y flwyddyn.
Pecyn Busnes
Cynhyrchwyd pecyn busnes
trwy nawdd cronfa Ewrop i ddenu sylw busnesau at yr Eisteddfod mewn modd
apelgar a phroffesiynol. Llwyddwyd i gael Persimmon Homes i gyfrannu at
gost creu’r pecyn (£500) ac o ganlyniad, dosbarthwyd 1500 o’r pecynnau i dai
Persimmon i hyrwyddo’r Gymraeg ac Eisteddfod Abertawe 2006. Cafodd 5000 o becynnau eu cynhyrchu a
dosbarthwyd hwy mewn sesiynau hyfforddiant, cyflwyniadau ar yr Eisteddfod,
sioeau, ffeiriau ac wrth gwrs trwy law'r Swyddog Busnes ar ei hymweliadau yn
lleol.
Cyfieithu
Defnyddwyr Cyfieithu Ebrill 2005 - Mawrth 2006
|
GRŴP 1 |
GRŴP 2 |
GRŴP 3 |
GRŴP 4 |
|
Women in Tune Tŷ Fforest Ysgol Bwylaidd Abertawe |
Ysgol Goedwig Oriel Mission Mudiad Ysgolion Meithrin (CAYP) Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Mumbles Arts and Crafts Playright Menter CNPT (papur a CAYP) Guto Thomas (llogi offer) BTCV Cymru Menter Cwm Gwendraeth (CAYP) Ysgol Parc y Tywyn (CAYP) Theatr na n’Óg Gallu (CAYP) To You Design Corff a Llais Menter Brycheiniog (CAYP) Easy Teaching Ltd WELCOME Groundwork |
Cymunedau yn Gyntaf ChildLine Macmillan Age Concern Y Deml Heddwch CGGA/SCVS Cyngor ar Bopeth PAVO CBAC Prosiect Cyffuriau Abertawe Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig Cymdeithas Hansard Age Concern CNPT GGAT Gofal a Thrwsio Amgylchedd Cymru SNAP Cymru Swansea Mind Aids Trust Cymru |
Euroconnect Catrin
Alun (llogi
offer) S4C
(CAYP) Comcen Dewis
(CAYP) (papur
a CAYP) Graphic
Realm Cynog
Dafis (llogi
offer) Winning
Moves Prifysgol
Abertawe
(papur
a CAYP) Cooportunity WCKA
Karate Exhibition
Management
Ltd Pilkington
Glazing Gwasanaeth Amddiffynnwr Cyhoeddus Yr Elyrch |
Esboniad o’r grwpiau
Grŵp 1 - cyrff
gwirfoddol a chymunedol â llai na 2 aelod o staff:
Grŵp 2 - cyrff
dielw/busnesau lleol â rhwng 2 a 10 aelod o staff:
Grŵp 3 - cyrff dielw mwy na 10 aelod
o staff llawn amser a chyflogedig
Grŵp 4 - cyrff masnachol
Nodir lle mae’r grwpiau wedi llogi
offer gan (llogi offer) neu dderbyn gwasanaeth cyfieithu ar y pryd (CAYP), ond
os na nodir hyn, cyfieithu papur a phrawf ddarllen a ddarparwyd.
Gwelir ein bod yn gwasanaethu:
4 corff gwirfoddol a chymunedol â
llai na 2 aelod o staff,
19 corff dielw/busnesau lleol â
rhwng 2 a 10 aelod o staff,
29 corff dielw â mwy na 10 aelod o
staff llawn amser a chyflogedig,
a 15 corff masnachol.
Dyma 57 corff i gyd, a llwyddwyd i
ddenu 23 corff newydd yn ystod y flwyddyn.
Incwm a Chynnydd
Cynhyrchwyd incwm o £8038.25 yn
ystod 2005/6.
Cynnydd mewn cyfieithu papur
Yn y tri mis cyntaf pan ddechreuwyd y swydd (sef 05/03/03 hyd at
05/06/03) cyfieithwyd 16,396 o eiriau, ond roedd yr incwm a gafwyd yn £40 (gan
na fyddai pobl wedi dechrau talu eu biliau eto).
Yn y tri mis cyfatebol yn y flwyddyn ganlynol (sef 05/03/04 hyd at
05/06/04) cyfieithwyd 22,539 gair, a £1546.35 oedd yr incwm.
Yn y tri mis o 03/12/04 – 03/03/05, cyfieithwyd 37,872 gair, a’r incwm
oedd £2066.08
Yn y tri mis o 01/01/06 i 01/04/06, cyfieithwyd 38,951 gair, a chafwyd £2,253.11 o incwm.
Cynnydd mewn cyfieithu ar y pryd
Yn y tri mis cyntaf pan ddechreuwyd y swydd (sef 05/03/03 hyd at
05/06/03) ni chyfieithwyd ar y pryd mewn un cyfarfod, ond llogwyd offer ar 5
achlysur.
Yn y tri mis cyfatebol yn y flwyddyn ganlynol (sef 05/03/04 hyd at
05/06/04) cyfieithwyd ar y pryd ar 6 achlysur, a llogwyd offer ar 3 achlysur.
Yn y tri mis o 03/12/04 i
03/03/05, cyfieithwyd ar y pryd ar 6 achlysur, a llogwyd offer unwaith.
Yn y tri mis o 01/01/06 i 01/04/06, cyfieithwyd ar y pryd ar 7 achlysur,
a llogwyd yr offer 4 gwaith.
Marchnata
Cynhaliwyd 10 cyfarfod â
busnesau a mudiadau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys TGI Fridays, Morgans, SNAP Cymru,
Oriel Mission, a Sports Leaders
Wales. Yn ychwanegol at hyn cysylltwyd
â nifer o gwmnïau dros y ffôn ac ar
e-bost, sy’n golygu ein bod wedi cysylltu â chyfanswm o 43 o fusnesau a
mudiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Cyflwyniadau
Gwneuthum gyflwyniad ar fanteision gweithio’n ddwyieithog a’r gwasanaeth
cyfieithu i nifer o fusnesau bach yng Nghanolfan Treftadaeth De Gŵyr, ar y cyd
â Trysor, cymdeithas archeolegol.
Monopoly
Un o’r ymgyrchoedd a gynhaliwyd
gennyf yn ystod y flwyddyn oedd yr ymgyrch i gael Monopoly dwyieithog i
Abertawe. Nid oedd y cwmni a oedd yn cynhyrchu’r
gêm yn awyddus i gynhyrchu gêm ddwyieithog o gwbl ar y cychwyn, ond llwyddasom
i ddwyn perswâd arnynt. Gwnaethpwyd hyn drwy gysylltu â Bwrdd yr Iaith er mwyn
iddynt lythyru’r cwmni a chefnogi’n galwad, a threfnasom ddeiseb a gyflwynwyd
i’r Evening Post. Cyhoeddwyd pôl piniwn ganddynt yn dangos bod dros 200
wedi pleidleisio dros gael gêm ddwyieithog a 3 wedi pleidleisio yn erbyn. Yn dilyn hyn, cyfieithwyd bwrdd a chardiau Monopoly,
ond ni chefais yr holl elfennau i’w cyfieithu.
Pan ddaeth copi yn ôl i’w brawf
ddarllen, nid oeddwn yn hapus â maint y Gymraeg, a’r ffaith nad oedd unrhyw
Gymraeg ar glawr y bocs, ac yn y blaen. Ar ôl derbyn cyngor gan Heini,
cysylltais â’r cwmni gan nodi’r pwyntiau a oedd yn achosi pryder, a dywedasant
eu bod yn eu derbyn. Ni lwyddwyd i’w darbwyllo i newid yr elfennau hyn, fodd
bynnag. Mynychais lansiad Monopoly, ac roedd yn dda gweld bod y Gymraeg yn iawn
ar y cardiau a’r bwrdd, ond roeddwn yn siomedig gan nad oedd y Gymraeg o’r un
maint â’r Saesneg, a bod gwallau ar yr acenion yn y darn yn sôn am Abertawe.
Cefais gyfle da i hyrwyddo gwaith y
Fenter, fodd bynnag, oherwydd fe’m gwahoddwyd i gael cyfweliad ar Wedi 3 er
mwyn trafod y gwaith a wnaethpwyd gennym. Canmolodd Alun Wyn Bevan a Catrin
Evans waith y Fenter, gan ddweud ei bod hi’n anodd iawn dylanwadu ar gwmni mawr
o Lundain.
Stadiwm Liberty
Cynhaliwyd ymgyrch er mwyn ceisio
darbwyllo Stadiwm Liberty newydd Abertawe i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg o gwmpas
y stadiwm. Cysylltwyd â’r prif weithredwr ac aelodau o’r Cyngor nifer o
weithiau i’r perwyl hwn. Cynhaliwyd cyfarfod gydag Aled Davies, o uned Sector
Breifat Bwrdd yr Iaith, a Gwion Evans y Cyngor, er mwyn gweld sut y byddem yn
gweithredu. Darbwyllwyd cefnogwyr y Gweilch a’r Elyrch i anfon llythyron at
reolwyr y stadiwm yn gofyn am wasanaethau dwyieithog.
Cynhaliais i ac Emma gyfarfod gyda
Helen Davies, Rheolwraig Lletygarwch y Stadiwm. Trafodwyd cyfieithu arwyddion,
pecynnau, ac yn y blaen gyda hi. Mae hi hefyd wedi derbyn pecyn busnes, 8
bathodyn Iaith Gwaith a phoster. Crybwyllwyd y syniad o wneud archwiliad o’r
stadiwm i weld beth y gellid ei newid, ond mae wedi trosglwyddo cyfrifoldeb am
hyn i aelod arall o staff, ac er i fi e-bostio nifer o weithiau nid ydym wedi
gwneud cynnydd yn hyn o beth.
Gwnaethpwyd cynnydd, fodd bynnag,
gyda’r Elyrch. Cysylltwyd ag Eirian Wyn, sydd yn trefnu erthyglau ar gyfer
rhaglenni’r gemau. Rydym wedi trefnu ein bod yn cyfieithu erthyglau ar gyfer y
gemau cartref er mwyn cael logo’r Fenter ar y rhaglen.
Taflen yn
hyrwyddo Cyfieithu ar y Pryd
Cynlluniwyd taflen yn hyrwyddo
cyfieithu ar y pryd, ac mae hon wedi ei hargraffu a’i hanfon at nifer o
fudiadau erbyn hyn.
Cysylltiadau â
Bwrdd yr Iaith
Yn dilyn cynhadledd Bwrdd yr Iaith
yn trafod y Sector Breifat, rwyf wedi trefnu ein bod yn cadw cysylltiad agosach
â Rhidian Jones, sy’n gweithio yn y sector breifat yn y gorllewin, drwy anfon
adrannau perthnasol o’m hadroddiadau deufisol ato, a bydd ef yn rhoi gwybod i
ni pan fydd gwaith perthnasol yn ein hardal ni.
Arholiad Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Sefais arholiad Cymdeithas
Cyfieithwyr Cymru ym mis Ebrill, a chlywais ar ddiwedd mis Mai fy mod wedi bod
yn llwyddiannus yn y ddau bapur, sef cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r
Saesneg i’r Gymraeg.
Fforwm sirol
Bwrdd yr Iaith
Mae Fforwm sirol Abertawe yn ei ail flwyddyn bellach â’r
bartneriaeth rhwng y mudiadau wedi tynhau i’r graddau nes bod teimlad o weithio
fel tîm effeithiol rhwng y mudiadau yn bodoli. Sefydlwyd y Fforwm i annog a
dathlu cydweithio'r mudiadau Cymraeg yn Abertawe. Mae’r fforwm yn cynrychioli staff Meithrin, Twf, yr Urdd, Consortiwm, y
Fenter, Merched y Wawr, Rhag, CYD, y Cyngor Sir, a Phrifysgol Cymru Abertawe ac
rydym fel tîm wedi manteisio ar amryw o gyfleoedd i gydweithio yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf, yn benodol yn ystod Gŵyl Cyhoeddi’r Eisteddfod ac Ymgyrch
Marchnata Addysg/Cymreigiwch yn Abertawe. Mae’r cydweithio wedi bod yn brofiad
buddiol i bob un o’r mudiadau, gyda’n dealltwriaeth ni o’n gilydd, ein mudiadau
a’n ffyrdd o weithio wedi cynyddu’n sylweddol. Prif Swyddog y Fenter sy’n
cadeirio’r cyfarfodydd ar hyn o bryd.
Hyfforddiant Pobl
Ifanc
Yn ystod Medi a Hydref cyfieithwyd cwrs hyfforddiant ieuenctid
i bobl ifanc trwy uned gyfieithu’r sir a mynychwyd y cwrs gan 9 person ifanc
sydd bellach yn gymwys i weithio yn yr aelwydydd ac i fod yn weithwyr
dwyieithog i’r Cyngor. Roedd y cwrs yma yn ddilyniant i’r cwrs RHyCA mewn
Gwaith Ieuenctid a oedd yn rhedeg yn 2005, lle cafodd 8 gweithiwr newydd
hyfforddiant, ac sydd bellach yn arweinwyr yn yr aelwydydd. Cafodd y cwrs ei redeg gan Swyddog Maes y Fenter ar y
cyd a Swyddog o Uned Ieuenctid y Cyngor.
Trwy redeg y cwrs yma, daeth y Cyngor i sylweddoli fod galw am gyrsiau
drwy’r Gymraeg, bod pobl ifanc yn siarad Cymraeg a bod angen i’r Cyngor ddarparu
ar gyfer y bobl ifanc yna. Trwy wneud y cwrs mae’r bobl ifanc wedi dysgu
sgiliau fel asesu risg, iechyd a diogelwch a threfnu gweithgareddau a gobeithio
byddant yn defnyddio'r sgiliau yna yn y dyfodol. Mae’r cwrs yma wedi bod yn
fuddiol i’r Fenter gan iddo roi’r cyfle i ni redeg cwrs gwaith ieuenctid i bobl
ifanc sy’n siarad Cymraeg â chymhwyster mae’r Cyngor yn ei gydnabod ac yn
edrych amano wrth recriwtio gweithwyr. Os gall y Fenter hyfforddi mwy o bobl
ifanc yn y maes ieuenctid, bydd mwy o weithwyr ieuenctid yn Abertawe yn gallu
siarad Cymraeg.
Sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith
Yn ystod y flwyddyn, mae’r Fenter wedi parhau i ymgymryd ag ychydig o
waith cenhadu ac addysgu drwy gyfrwng sesiynau ymwybyddiaeth iaith. Erbyn hyn mae profiad eang gennym o ffyrdd o
gyflwyno’r sesiynau i
gyd-fynd a’r grŵp targed, mae nifer o sefydliadau wedi gofyn i ni wneud
gwaith o’r fath:
Roedd y sesiynau hyn yn amrywio yn ôl oed ac angen, ond roedd y rhan
fwyaf yn cynnwys cyflwyniad ar hanes yr iaith, gweithgareddau, cyflwyniad am
waith y Fenter a thriniaeth o agweddau cyffredin tuag at yr iaith. Mae safon
deunydd ar gyfer y sesiynau wedi gwella, ond, â’r nifer o gyflwyniadau yn
cynyddu, bydd angen cynhyrchu mwy o ddeunydd proffesiynol. Mae’r Fenter wedi elwa ar wybodaeth helaeth
ein Swyddog Maes yn y maes hwn.
Gyda’r newid a’r cynnydd mewn staff bydd angen sicrhau hyfforddiant
mewnol gan y staff mwyaf profiadol yn y maes, er mwyn gallu parhau gyda’r lefel
hwn o weithgarwch. Mae’r Fenter yn gweld budd mawr mewn sesiynau o’r fath ac
mae cysylltiadau pwysig a chydweithio pellach wedi datblygu yn sgil y
cyflwyniadau ymwybyddiaeth iaith.
Dysgwyr: Pecyn
Gwybodaeth i Ddysgwyr
Cynyrchwyd ail gyflenwad o’n
pecynnau gwybodaeth i ddysgwyr, a oedd mor boblogaith y llynnedd. Roedd yn
gyfle, nid yn unig i drosglwyddo gwybodaeth gwbl berthnasol i ddysgwyr gwbl
newydd i’r Gymraeg, ynghyd a dysgywr fwy profiadol am y cyfleoed i defnyddio eu
sgiliau ieithyddol newydd yn Abertawe, ond roedd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth
o’r Eisteddfod. Mae hyn, fel yr ydych yn siwr o fod wedi sylwi o ddarllen yr adroddiad,
wedi bod yn ffocws i ni a nifer o fudiadau eraill dros y flwyddyn diwethaf.
Roedd y pecyn y cynnwys gwbodaeth am sut i gael mynediad i safleoedd gwe,
rhaglenni radio a theledu sy’n addas ar gyfer dysgwyr, ond yn bwysicaf oll, gwybodaeth ar sut i
ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hardaloedd lleol. Trwy’r gweithgor dysgywr, sydd
wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i ddatblygiad gwaith dysgwyr y Fenter, aethpwyd
ati i gasglu adnoddau, a oedd yn cynnwys manylion mudiadau Cymraeg ar gyfer dysgwyr
lleol e.e. CYD, Consortiwm, y Fenter, rhaglen Tŷ Tawe, taflen caffi clonc a.y.b.,
yn ogystal â phamffledi dysgu Cymraeg, beiros a digwyddiaduron Bwrdd yr Iaith.
Daeth y gweithgor a swyddogion y Fenter at ei gilydd i lenwi’r pecynnau, a
dosbarthwyd pecyn i dros 600 o ddysgwyr yn Abertawe trwy’r tiwtoriaid a’r
gweithgor.
Gweithgareddau
newydd / achlysurol
Gŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Abertawe
Bu’r Fforwm sirol yn
weithgar iawn dros y flwyddyn ddiwethaf yn paratoi at yr Eisteddfod. Gŵyl
Cyhoeddi’r Eisteddfod oedd y tro cyntaf i bob un ohonom fel Fforwm gydweithio
yn ogystal â bod yn gyfle i ni gydweithio gyda sefydliadau mwy fel S4C, Radio
Cymru ac uned ddigwyddiadau’r Cyngor Sir.
Yn wreiddiol, cytunwyd i drefnu bore o adloniant ar lwyfan yn sgwâr y
Castell, a chael stondinau pob un o’r mudiadau yn hyrwyddo’u gwasanaethau unigol
yn ystod y dydd. Newidiwyd y trefniadau ar ôl trafodaethau gydag S4C/Radio
Cymru i gyfuno digwyddiadau’r Fforwm a’u taith Haf nhw i gael diwrnod llawn o
adloniant.
Cydweithiwyd â gwirfoddolwyr pwyllgor apêl ward Castell a rhai
o weithwyr ifanc y Fenter i ddosbarthu taflenni am Eisteddfod Abertawe a
hysbysu’r cyhoedd am yr orymdaith ganol dydd. Rhoddwyd cyfweliad hefyd ar Radio
Cymru gan gynrychiolwyr y Fforwm ar waith y Fforwm a llwyddiant y dydd.
Partneriaeth y
Fenter a’r CGGA trwy gynllun hyfforddiant hirdymor
Daeth gweithiwr Datblygu Cymuned dan hyfforddiant (Cymraeg ei iaith)
trwy Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA) i ymuno a thîm y Fenter ar
gyfnod profiad gwaith hirdymor ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Roedd y Fenter
yn un o 7 mudiad arall yn Abertawe a oedd yn rhan o’r cynllun hyfforddiant mewn
partneriaeth a’r CGGA, er mai dyma’r tro cyntaf i weithiwr dan hyfforddiant
gael y cyfle i dderbyn hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg, ac i gael y cyfle i
weithio gyda’r gymuned o ddiddordeb Cymraeg. Treuliodd y swyddog amser gyda
phob un o’r swyddogion yn eu tro er mwyn dysgu am yr hyn y mae’r Fenter yn ei
gyflawni a pham. Roedd yn rhan o weithgareddau’r Hwyl Haf yn ogystal â chynnal
gweithdy drymio, syrffio a’r gweithgareddau awyr agored. Er y gwaith
cyffredinol, neilltuwyd prosiect penodol ar ei gyfer, hynny oedd i greu
proffiliau o wasanaethau Cymraeg yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Abertawe.
Cafodd ei ddatblygiad proffesiynnol ei fonitro’n agos gan y Prif Swyddog trwy
gyfarfodydd gwaith wythnosol a Phennaeth y cynllun gyda’r CGGA bob pythefnos.
Mae’r cynllun wedi bod yn brofiad heriol ar adegau i’r swyddog ac i’r Fenter,
ond heb os, mae’r cynllun wedi cael effaith positif ar sut mae’r person ifanc
yn gweld y Gymraeg. Mae’r swyddog bellach yn cymdeithasu, yn dysgu sgiliau ac
yn gweithio trwy’r Gymraeg. O ran y Fenter, mae ein profiad o weithio’n agos
gyda CGGA wedi bod yn un cwbl gadarnhaol. Rydym fel mudiad wedi cael ein canmol
am ein hymroddiad i’r cynllun ac i’r swyddog sydd erbyn hyn bron yn barod i
gwblhau ei gyfnod profiad gwaith.
Clybiau ôl ysgol cynradd Cymraeg
Dechreuwyd dau glwb ar ôl ysgol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – un
cynradd ac un uwchradd. Teimlwyd bod angen i Swyddogion Maes y Fenter greu
cysylltiadau gwell â’r disgyblion ifanc fel eu bod yn dod yn gyfarwydd â’r
swyddogion a dod i glywed am y cyfleoedd iddynt ddefyddio’r Gymraeg yn eu amser
hamdden e.e. trwy gynlluniau chwarae’r Fenter neu’r aelwydydd.
Tirdeunaw:- Cynorthwywyd y
clwb bob yn ail wythnos gan y Fenter trwy gêmau iaith, parasiwt a chwaraeon
amrywiol.
Clwb Jiwdo Bryntawe.- bu clwb Jiwdo
yn cyfarfod yn wythnosol ym Mryntawe â’r niferoedd yn amrywio o 10 i 20, gyda
chymysgedd o ferched a bechgyn o flynyddoedd 7 ac 8.
Mae’r clybiau wedi llwyddo i greu cyswllt gyda’r plant, ffaith a
effeithiodd yn uniongyrchol ar drip awyr agored a gynhaliwyd yn Rhosili, a
fynychwyd gan nifer o’r dosbarth Jiwdo, criw newydd i weithgareddau’r Fenter
hyd yn hyn.
Bwriadwn ymestyn y ddarpariaeth i ysgolion eraill y sir yn eu tro, yn ôl
angen ac adnoddau dynol.
Gweithgareddau
Awyr Agored
Yn dilyn llwyddiant y gweithdai syrffio, penderfynwyd cynnig
gweithgareddau awyr agored fel rhan o ddarpariaeth haf y Fenter. Mynychodd 13 o
bobl ifanc rhwng 13 i 15 blwydd oed weithgareddau dringo creigiau, abseilio a ‘coasteering’ dan gyfarwyddyd canolfan
awyr agored Rhosili a gwersyll Hillend yn Llangennith dros 2 ddiwrnod. Dyma’r
tro cyntaf i’r Fenter roi cynnig ar weithgaredd dros nos ac roedd yn llwyddiant
ysgubol (er ei fod yn waith blinedig!). Benthycwyd yr offer i gyd oddi wrth
Wobr Dug Caeredin yng Nghanoldre. Roedd y prosiect yn fuddiol wrth i staff y
Fenter gael y cyfle i dreulio amser gyda chriw o ieuenctid a felly’n rhoi’r cyfle
iddynt ddod i adnabod y plant a gwneud rhywfaint o waith ieuenctid.
Cydlynodd y Fenter 8 o
weithwyr/gwirfoddolwyr Mentrau Iaith Morgannwg a Gwent i fynychu hyfforddiant
MLA (Mountain Leader Award) yn sgil
llwyddiant cais trwy Gyngor Chwaraeon Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol
ddiwethaf. Mae’r cymhwyster yn galluogi’r swyddogion i arwain grwpiau ar
fynyddoedd (yn ystod yr haf yn unig). Pwysigrwydd a manteision rhoi cyfleoedd i
bobl ifanc ennill cymwysterau dringo yw wrth gwrs bod mwy o gyfleoedd I Gymry
Cymraeg ymgymryd â gweithgareddau awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwobrau Dug
Caeredin
Mae gwaith y Fenter â gwobrau Dug Caeredin wedi datblygu i gynnwys
nid yn unig disgyblion Gŵyr
ond aelwyd Clydach a disgyblion Bryn Tawe. Rhoddwyd cymorth ymarferol trwy’r Fenter i athrawon a
disgyblion Gŵyr a’r aelwyd ar eu halltaith i Gastell Carreg Cennyn
a Phort Eynon. Bu cerdded, gwersylla, gêmau tîm a mwy o gerdded dros y
penwythnos ym Mhort Eynon. Gan fod Swyddog Maes y Fenter hefyd wedi bod yn rhan
o’r gweithgareddau i ennill profiad yn y maes, roedd modd i’r Fenter wneud y
dasg yn annibynnol o’r ysgol wedi hynny.
Gwnaethpwyd y camau cychwynnol i ddechrau Gwobrau Dug Caeredin
ym Mryn Tawe gyda chryn lwyddiant. Bwriadwn adeiladu ar frwdfrydedd y bobl
ifanc yma yn ystod y misoedd i ddod. Mae’r gwobrau yn cynnig dilyniant naturiol
i’r bobl ifanc hynny sydd wedi mynychu gweithgareddau’r Fenter yn y gorffennol,
ac yn cynnig cyfle i ni fel Menter ddarparu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg
iddynt bob cam o’r ffordd.
Mae’n galonogol gweld pobl ifanc ym manteisio ar y cyfleoedd y gall y
Fenter eu cynnig iddynt, yn enwedig rhai sydd wedi tyfu a datblygu gyda’r
Fenter mewn ffordd. Yr hyn oedd yn gadarnhaol oedd bod y bobl ifanc y mae'r
Fenter wedi ymwneud â nhw o’r blaen yn siarad Cymraeg gyda’r Swyddog Maes, lle
bo’r lleill yn gyndyn iawn i wneud. Mae
hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y cyswllt personol cyson rhwng y swyddogion maes
a phobl ifanc.
Cymreigiwch yn
Abertawe / Ymgyrch Farchnata Addysg Bwrdd yr Iaith
Roeddem yn rhan oŵyl ‘Cymreigiwch Abertawe’ y
Cyngor eleni am y 3ydd tro. Roedd trefniant yr ŵyl eto yn wahanol i’r flwyddyn
flaenorol oherwydd newidiadau staffio yn adran farchnata’r Cyngor. Nid oedd y
Cyngor yn bwriadu trefnu adloniant yn y Cwadrant, dim ond hysbysebu
gweithgareddau oedd yn digwydd yn annibynnol. Teimlwyd yn gryf yn y Fforwm
Sirol fod angen i ddigwyddiad yn hyrwyddo’r Eisteddfod o gwmpas dathliadau Dydd
Gŵyl Dewi gael ei gynnal, a hynny mewn man cyhoeddus.
Cysylltwyd â’r Fenter hefyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i fod yn rhan
o gynllun peilot y Bwrdd i Farchnata Addysg Gymraeg, un o 6 ardal yn
genedlaethol a dargedwyd mewn ymgyrch
penodol ‘Cymraeg- Kids soak it up’ yn ystod mis Chwefror 06.
Mewn cydweithrediad â’r Fforwm Sirol a’r Gweithgor Datblygu (sydd
bellach yn bwyllgor rheoli ar y Fenter) cytunwyd i gyfuno’r ddau ddigwyddiad,
ac mewn cydweithrediad â’r Cyngor Sir, aethpwyd ati i drefnu 2 ddiwrnod o
adloniant yng nghanol y Cwadrant. Trwy gyfarfodydd â’r gweithgor datblygu a’r
Fforwm Sirol cytunwyd ar yr adloniant canlynol:
Daeth gwirfoddolwyr o’r Fforwm Sirol ac o’r gweithgor datblygu
i gefnogi yn ystod y 2 ddiwrnod trwy ddosbarthu deunydd marchnata'r ymgyrch
addysg sef sbwnjys, pensiliau, brwsys dannedd i blant, bibs i fabanod a.y.b.,
ac wrth gwrs i ddosbarthu gwybodaeth am yr Eisteddfod. Roedd yn waith caled ond
yn ddigwyddiad hynod fuddiol. Un o lwyddiannau mwyaf y digwyddiad o ran trefniant
oedd ein dewis o gyflwynydd. Roedd Kevin Johns, sy’n dysgu Cymraeg ac sydd wedi
anfon ei blant trwy’r system addysg Gymraeg, yn wych yn trosglwyddo manteision addysg
Gymraeg i’r gynulleidfa darged. Cafwyd ymateb positif gan rieni yn ystod y ddeuddydd
oedd yn awyddus i gael gwybodaeth am ysgolion Cymraeg Abertawe, i gael
gwybodaeth bellach gan y Bwrdd am addysg Gymraeg yn gyffredinol ac am waith
mudiadau Cymraeg Abertawe.
Cafwyd cyfarfod adborth gyda’r Bwrdd lle trafodwyd
effeithiolrwydd y deunydd, yr amser a gafwyd i drefnu gweithgareddau) a
manteision ac anfanteision yr ymgyrch yn gyffredinol. Nodwyd gan y Bwrdd fod
nifer o ymholiadau i’r llinell gymorth wedi dod o ardal Abertawe.
Prosiect
Treftadaeth GYTS (Gwnewch Ymdrech Tra’n Siarad)
Mae criw o chweched dosbarth Gŵyr wedi dechrau ymgyrch o’r enw
GYTS yn yr ysgol - sef Gwnewch Ymdrech Tra’n Siarad. Dechreuodd yr ymgyrch yma
yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth er mwyn Cymreigio’r ysgol ymysg y disgyblion.
Mae gan nifer fawr o’r criw gysylltiad â’r Fenter, trwy weithio yn yr
aelwydydd, drwy wneud profiad gwaith neu drwy fynychu Gwener y Grolsch. Mae’r
Fenter, gyda chymorth Miss. Rowlands, Athrawes Gymraeg yr ysgol, wedi bod yn
gweithio gyda GYTS wrth iddynt sefydlu pwyllgor a phenderfynu ar dargedau. Mae’r
Fenter wedi cynnig cymorth iddynt drefnu gig GYG eu hunain i godi arian i’r
ymgyrch. Bu cryn gydweithrediad gyda’r grŵp a Swyddog Cymraeg Morgannwg y
Fenter i gyd-gynllunio prosiect yn codi ymwybyddiaeth disgyblion yr ysgol o’r
frwydr a’r ymdrech a aeth i sefydlu ysgol uwchradd gyntaf y sir. Mae’r
cydweithio effeithiol wedi esblygu i fod yn brosiect a fydd yn cynnwys DVD o waith
ymchwil y disgyblion i gasglu gwybodaeth ffeithiol o ran cyhoeddiadau,
datganiadau i’r wasg, cyfweliadau ag ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg, rhieni
cefnogol, yn ogystal â threfnu cyflwyniadau gan brifathro, athrawon a
disgyblion cyntaf yr ysgol. Mae’r prosiect wedi denu diddordeb Cronfa
Treftadaeth y Loteri, a chafwyd cyfarfod gyda’r Grŵp GYTS a swyddog y gronfa i
drafod posibiliadau ariannu’r prosiect arloesol. Gwnaethpwyd cais yn enw’r
Fenter ar ran y grŵp gan Swyddog Cymraeg Morgannwg ac rydym ni a GYTS yn
awyddus i gael cadarnhad o’r canlyniad.
Brwydr y Bandiau
Trefnwyd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ar y cyd rhwng gwasanaeth nos
BBC Radio Cymru, C2, a Mentrau Iaith Cymru, â’r nod, ar lefel genedlaethol, o
ddod o hyd i'r enw mawr nesaf yng Nghymru a chynnig cyfle anhygoel iddyn nhw godi
proffil, recordio a pherfformio yn rhai o brif ddigwyddiadau Cymru. Ar lefel leol, y bwriad oedd codi
ymwybyddiaeth ac ymwneud pobl ifanc mewn cerddoriaeth gyfoes Cymraeg.
Cynhaliwyd rownd rhanbarthol y De Ddwyrain yn Abertawe yn mis
Gorffennaf. Yn anffodus, o ganlyniad i newidiadau sylweddol o ran trefniant y
gystadleuaeth yn agos iawn at y dyddiad, roedd canlyniad y gystadleuaeth yn un
siomedig. Ar ddechrau’r wythnos cyn y frwydr roedd 9 band o’r
de-ddwyrain yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth ond erbyn y dydd Sadwrn
roedd pob un ohonynt wedi tynnu’n ôl. Llwyddwyd yn y diwedd i
recordio un band ar gyfer rhaglen C2.
Er bod y
gystadleuaeth yn ei hanfod yn un arbennig o bwysig o ran cynnig mynediad i bobl
ifanc i ddiwylliant cerddoriaeth Cymraeg modern, mae angen newid tipyn arni.
Roedd y gystadleuaeth yn digwydd yn ystod arholiadau, sy’n un rheswm pam cafwyd
cymaint o anawsterau dod o hyd i ( a chadw!) bandiau ifanc. Bu trafodaethau
niferus ar ôl y frwydr eleni am yr angen i gydweithio’n well rhwng y Mentrau ac
C2 o ran amseriad, hysbysebu a hyrwyddo’r digwyddiad. Codwyd heyf y mater hollbwysig
ynglŷn â meithrin a chefnogi talent ifanc ymhell o flaen llaw drwy weithdai
roc, cyfansoddi, y math o waith a fydd yn codi hyder y bobl ifanc i chwarae’n
gyhoeddus ac i ddatblygu sgiliau newydd. Os gwrandawn ar y negeseuon clir y
mae’r bandiau ifanc yn eu rhoi, ni chawn sefyllfa fel yr oedd eleni eto yn
rhanbarth y de-ddwyrain.
Mae’r Fenter, o ganlyniad i gyfraniad siomedig ein rhanbarth ni i’r
digwyddiad, wedi bod yn cefnogi band ifanc o Gŵyr i ddatblygu eu sgiliau fel grŵp ifanc sydd
am berfformio’n Gymraeg, trwy gynnig lleoliad ac offer ymarfer iddynt yn
wythnosol. Trefnwyd rota rhwng swyddogion y Fenter a Catrin Rowlands, Athrawes Gymraeg
Gŵyr i orchuwylio’r
sesiwn wythnosol. Y gobaith yw y bydd y band yn datblygu i gystadlu ym Mrwydr y
Bandiau 2007 ac i gael band roc Cymraeg yn Abertawe. Mae’r sesiynau wedi bod yn
anffurfiol, ond cafodd y grŵp
weithdy roc personol gyda’r band Frizbee,
a oedd yn brofiad anhygoel iddynt. Gobeithio y bydd mwy o weithdai tebyg yn
gallu datblygu gyda’r bandiau eraill sy’n chwarae yng Ngwener y Grolsch.
Prosiect Ysgol
Pentrehafod / Eisteddfod
Mewn cydweithrediad ag ysgol Pentrehafod, SBREC (Swansea Bay Racial Equality Council), Cymunedau’n
Gyntaf ward Castell, a Robin Campbell o bwyllgor apêl Eisteddfod Trefansel,
cynlluniwyd prosiect i hyrwyddo’r Eisteddfod yn ardal yr Hafod. Mae gan yr
ardal ganran uchel o leiafrifoedd ethnig na fyddai o reidrwydd wedi clywed am
yr Eisteddfod o’r blaen. Gwelwyd hwn, felly, yn gyfle da i integreiddio dau
ddiwylliant gwahanol mewn modd sy’n gwbl dderbyniol i bawb. Gan fod yr ysgol yn
ganolog yn yr ardal a chyda’i natur amlddiwylliannol, roedd yn synhwyrol i ni
ganolbwyntio ar ddisgyblion yr ysgol i’n cynorthwyo gyda’r prosiect hon. Prif
fwriad y prosiect oedd sicrhau mynediad pobl leol i wybodaeth am ddiwylliant
Cymraeg gyda’r Eisteddfod yn dod, ond hefyd i fod yn gyfle i ni ddysgu a
gwerthfawrogi diwylliant newydd a gwahanol i’n diwylliant ni. Mae gweithdai wedi
dechrau yn canolbwyntio ar gerddoriaeth ac ar ddawns Cymraeg (a Bengali) ond yn
cyflwyno’r ddwy mewn ffordd unigryw. Byddwn yn ystod yr wythnosau nesaf yn dod
a’r prosiect i ben trwy berfformaid gan ddisgyblion yr ysgol sydd wedi bod yn
ymwneud â’r gweithdai, ynghyd ag arddangosfa benodol ar hanes yr Eisteddfod.
Bydd y perfformiad yn cael ei gynnal yn yr ysgol ac yn agored i rieni a
thrigolion yr ardal.
Mae grŵp roc yr ysgol wedi bod y dysgu caneuon y grŵp
Cymraeg poblogaidd Frizbee yn barod
ar gyfer y perfformiad nos ac mae swyddfa’r Eisteddfod hefyd yn awyddus i’r
grwpiau dawnsio berfformio ar eu llwyfan perfformio yn ystod yr wythnos
Eisteddfod.
Cafwyd cadarnhad ein bod wedi llwyddo mewn cais loteri ‘Dyma dy
gyfle’ i dalu am y gweithdai, ac arddangosfa tairieithog am yr Eisteddfod.
Gwersi Cymraeg i
Gynghorwyr Abertawe
Yn dilyn cydweithio da gyda’r Cyngor Sir yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf, gofynnwyd i’r Fenter lunio cwrs Cymraeg i 16 o gynghorwyr ac aelodau
cabinet y sir oedd yn awyddus i ddysgu rhywfaint o Gymraeg cyn i’r Eisteddfod
ddod i Abertawe. Gwelwyd hyn yn gyfle ardderchog i sicrhau bod eu
hymwybyddiaeth gyffredinol o’r Gymraeg yn gwella yn ogystal â’u sgiliau
Cymraeg. Cyflwynwyd briff o’r prosiect gan y Fenter gydag awgrym cryf y dylid dechrau’r cwrs gyda phenwythnos dwys
o ddysgu a rhannu gwybodaeth am y Gymraeg, cyn parhau â’r gwersi wythnosol
(dros gyfnod o 3 mis). Cynigiwyd sesiynau ‘dal fyny’ ychwanegol i’r rhai nad
oedd yn gallu mynychu’r wers yn wythnosol a chyflwynwyd y syniad newydd o
‘Fentoriaid’ i’r cynllun. Gwelsom fudd o ddefnyddio staff Cymraeg presennol y
Cyngor i gynorthwyo’r cynghorwyr yn unigol fel modd effeithiol o 1) cefnogi,
cadw brwdfrydedd ac annog y cynghorwyr i barhau, ond yn bennaf 2) i adlewyrchu
bod siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y Cyngor. Roedd y Fenter hefyd eisiau
dangos bod angen defnyddio a manteisio ar sgiliau dwyieithog y staff i wella eu
darpariaeth Cymraeg yn gyffredinol ac wrth gwrs, i ddangos taw sgil sy’n haeddu
cydnabyddiaeth ariannol yw’r Gymraeg. Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos
gyda’r Consortiwm Cymraeg i Oedolion, a Chris Reynolds yn benodol sydd wedi
cytuno i fod yn diwtor i ni.
Mae’r Cwrs ar fin dechrau, ond mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn
gadarnhaol.
Boreuon/
diwrnodau Cymraeg ysgolion ail iaith
Penyrheol
Pob Hydref mae
Ysgol Gyfun Penyrheol yn trefnu diwrnod Cymraeg i ddisgyblion bl.7. Eleni, aeth
ein Swyddog Maes, sy’n rhedeg y clwb cinio yn yr ysgol, i redeg
gweithgareddau'r Fenter. Cafwyd 4 sesiwn gwahanol o gêmau iaith.
Pontarddulais Cafodd disgyblion Ysgol Gyfun Pontarddulais
gyflwyniad ar yr Eisteddfod, cwis a gêmau iaith yn ystod eu diwrnod ail-iaith.
Trefnwyd y diwrnod y tu allan i furiau’r ysgol, yn yr athrofa yn y Bont, er
mwyn gwneud y sesiwn yn fwy anffurfiol a difyr. Roedd y cyflwyniadau i
ddosbarthiadau bl.10 ac 11, ac roedden nhw’n ddilyniant i sesiynau blaenorol.
Un sesiwn sy’n ddiddorol yw sesiwn barn, lle gofynnir beth yw agwedd y bobl
ifanc tuag at y Gymraeg. Gofynnwyd yn y sesiwn yma: “Cytuno neu anghytuno -
dylai pob person yng Nghymru siarad Cymraeg” - roedd dros 75% yn cytuno.
Esgob
Gôr Ar Chwefror 28ain cafwyd bore ail iaith ar gyfer disgyblion bl.9 Ysgol
Esgob Gôr. Roedd yr Adran Gymraeg wedi gofyn i Swyddog Maes y Fenter i siarad
gyda’r dosbarthiadau Cymraeg i drafod y Gymraeg a gyrfaoedd. Mae hi’n bwysig
siarad gyda blwyddyn 9 yn ystod y cyfnod hwn oherwydd dyma’r cyfnod y gwnânt eu
dewisiadau TGAU. Hefyd, mae’r boreuon yma yn rhoi’r cyfle i’r Fenter hyrwyddo’r
Gymraeg i flynyddoedd sy’n rhy hen i’r sesiynau amser cinio ail iaith.
Gellifedw Ar Ionawr 30ain, treuliwyd bore yn
cynnal sesiynau ymwybyddiaeth iaith a gyrfaoedd ar gyfer disgyblion blwyddyn 9
Ysgol Uwchradd Gellifedw gan eu bod ar fin gwneud dewisiadau TGAU.
Cynhaliwyd
4 sesiwn gydag oddeutu 30 ym mhob dosbarth. Gobeithio y bydd hyn yn dylanwadu
rhywfaint ar eu dewisiadau TGAU.
Prosiect
Treftadaeth
Mae Swyddog Cymraeg Morgannwg bron â chwblhau ei gwaith prosiect gyda
Mentrau’r de-ddwyrain ar ymchwilio a chofnodi etifeddiaeth y Gymraeg yn y
cymunedau lleol. Mae gwefan a stondin penodol ar gyfer y prosiect ar faes yr
Eisteddfod wrthi’n cael ei drefnu lle
bydd modd i’r cyhoedd ddysgu trwy daflen, a DVD am y gwaith sydd wedi cael ei gyflawni
hyd yn hyn.
Y Prosiectau
Prosiect Rhondda Cynon Taf
Codi ymwybyddiaeth pobl leol o’r ffaith fod y bont ym
Mhontypridd yn 250 mlwydd oed yn 2006 a’r Anthem Genedlaethol yn 150 mlwydd oed
yn 2006. Wrth godi ymwybyddiaeth y bobl leol o’r hanes pwysig yma, hoffwn fod
yn codi eu balchder nhw o fod yn Gymry Cymraeg gan obeithio y byddant yn fwy
tebygol o ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.
Prosiect Caerdydd
Cyfweld gyda thua 10 person o Aelwyd Oedolion sy’n cwrdd
yn wythnosol yng Nghaerdydd, gan gofnodi eu hatgofion nhw o dyfu gyda’r iaith
a’u profiadau o gymdeithasu drwy’r Gymraeg yn y ddinas dros yr hanner canrif
ddiwethaf.
Hefyd datblygu portffolio o’u lluniau personol fel
cofnod i gyd-fynd â’u straeon.
Prosiect Castell-nedd Port
Talbot
Casglu gwybodaeth am y tri phapur bro leol sef Clecs y
Cwm, Llais a Glo Mân a chreu cyflwyniad pwynt pŵer i’w ddefnyddio mewn
cyflwyniadau pwrpasol i ddangos pwysigrwydd y papurau i’r bobl leol.
Gweithio gyda phobl ifanc o Ysgol Gyfun Ystalyfera a
ChwmTawe i greu papur bro ‘Ieuenctid’ yn canolbwyntio ar weithgareddau a
digwyddiadau Cymraeg sydd yn digwydd tu allan i’r ysgol yn eu hardaloedd lleol
nhw, yn barod ar gyfer Eisteddfod Abertawe 2006.
Gobeithiwn ychwanegu darnau o bapur bro’r Ieuenctid at
y papurau bro eraill i geisio helpu codi gwerthiant drwy dargedu mwy o bobl
ifanc.
Merthyr
Creu arddangosfa broffesiynol yn dangos Cymreictod
Merthyr a phwysigrwydd y capeli Cymraeg yn yr ardal.
Prosiect Caerffili
Creu straeon digidol gan bobl leol i gofnodi eu hacenion
lleol unigryw ac i glywed am eu profiadau yn Gymry Cymraeg neu’n ddysgwyr yr
iaith yng Nghaerffili.
Prosiect Abertawe
Creu cronfa ddata/banc
electronig o wybodaeth ar hanes y Gymraeg yn Abertawe dros y 100 mlynedd
diwethaf, yn benodol ar Eisteddfodau ac Addysg Gymraeg yn Abertawe. Felly, dyma
greu cofnod gweledol a chlywedol o’r
Gymraeg, e.e. lluniau digidol, sain, a ffilm. Cynllunio gwefan i farchnata’r banc, ac er mwyn galluogi iddo gael ei ddefnyddio’n
eang gan y gymuned.
Prosiect Y Fro
Trefnu gweithdy
Mari Lwyd o fewn grwpiau cymunedol eraill, er mwyn codi eu hymwybyddiaeth nhw
o’r ŵyl. Byddwn hefyd yn creu pecynnau gwybodaeth a fydd yn galluogi eraill i
ddysgu mwy am hanes a phwysigrwydd traddodiad y Fari Lwyd a’r iaith Gymraeg.
Wedi i
bob grŵp gael cyfle i wneud y gweithdy, fe fyddwn yn trefnu un noson derfynol
er mwyn dod â’r grwpiau at ei gilydd i wneud y Fari Lwyd.
Prosiect
Bro Ogwr
Gweithio
gyda grŵp o ddysgwyr y Fenter er mwyn cynhyrchu cardiau addysg am yr ysgolion
lleol. Bydd y cardiau gyda’r wybodaeth amdano chwedlau, traddodiadau a hanes yr
ardal amdano.
Cylchlythr y
Fenter – ‘Awen – Ysbrydoli Cenhedlaeth’
Mae’r Fenter ers rhai blynyddoedd wedi bod yn awyddus i
ddechrau cylchlythyr a fydd yn codi ymwybyddiaeth o’r gwaith amrywiol sy’n cael
ei wneud gan y Fenter, yn ogystal ag hyrwyddo gwaith a gweithgareddau pobl
ifanc Abertawe. Wedi cael cadarnhad gan y sir y byddant yn ariannu rhifyn
cyntaf ein cylchlythyr, aethpwyd ati i gynllunio. Gan ystyried mai’r rhifyn
cyntaf oedd hi, teimlwyd bod angen canolbwyntio ar roi cyflwyniad o’r Fenter
a’n prif weithgareddau. Rhannwyd cyfrifoldeb y penawdau rhwng swyddogion y
Fenter oedd yn cynnwys tudalen Cynnwys, hanes y Fenter, gwaith ieuenctid,
@bertaw-e, dysgwyr, a’r Eisteddfod. Cyfieithwyd y gwaith i’r Saesneg cyn ei
anfon ymlaen at argraffydd lleol. Rhoddwyd briff i’r argraffydd i greu delwedd
ifanc, gyfoes ond digon addas ar gyfer y rhieni. Dosbarthwyd y cylchlythyr i
bob disgybl yn ysgolion Cymraeg ac uwchradd y sir trwy’r ysgolion ac rydym
wrthi ar hyn o bryd yn dosbarthu o gwmpas sefydliadau cyhoeddus y sir megis
canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd ac ati yn ogystal â darparu cyflenwad i
ysgolion ail iaith y sir. O ran enw’r cychgrawn, wedi ymgynghoriad e-bost
gyda’r gwirfoddolwyr, penderfynwyd ar ‘Awen - ysbrydoli Cenhedlaeth’.
Hyfforddiant
|
Enw |
Cwrs |
Darparwyr |
Lleoliad |
|
Siwan |
Sgiliau Cyflwyno |
BYIG |
Caerdydd |
|
|
Adnabod straen ymysg y gweithlu |
Morgan Cole |
Abertawe |
|
|
Contractau |
WDA |
Abertawe |
|
|
Straen yn y gweithle |
Morgan Cole |
Abertawe |
|
|
Trwyddedu |
Llys y Goron |
Abertawe |
|
Bedwyr |
Awyr Agored |
BELA |
Abertawe |
|
|
MLA |
Urdd |
Glan Llyn |
|
|
SPA |
Camre Cymru |
Deiniolen |
|
Dai |
Awyr Agored |
BELA |
Abertawe |
|
|
MLA |
Urdd |
Glan Llyn |
|
|
Hyfforddi’r Hyfforddwr |
Cyngor |
Abertawe |
|
|
SPA |
Camre Cymru |
Deiniolen |
|
Llywelyn |
SPA |
Camre Cymru |
Deiniolen |
|
|
Hyfforddwr Rygbi Lefel 1 |
URC |
Llandarcy |
|
|
Cynllunio Gwefan |
SCVS |
Abertawe |
|
|
Rheoli Amser |
SCVS |
Abertawe |
|
|
Defnyddio camera digidol |
Coleg y Drindod |
Caerfyrddin |
|
Sionedwyn |
Dad Dramateiddio Cymunedau |
WCVA |
Caerdydd |
|
|
Sgiliau Cyflwyno |
BYIG |
Caerdydd |
|
|
Cyfranogiad Cymunedol – diethro cymdeithasol |
SCVS |
Abertawe |
|
|
Cymunedau a gwaith gymunedol |
SCVS |
Abertawe |
|
|
Sgiliau gwaith cymunedol |
SCVS |
Abertawe |
|
|
Sgiliau codi arian |
SCVS |
Abertawe |
|
|
Cymunedau’n Gyntaf a Dwyieithrwydd’ |
Menter A Busnes |
Caerfyrddin |
|
|
Basic Life Support |
Cyngor |
Abertawe |
|
|
Cyflwyniad i fonitro a gwerthuso |
SCVS |
Abertawe |
|
|
Proffilio cymunedol |
SCVS |
Abertawe |
|
Nia |
Sgiliau Cyflwyno |
BYIG |
Caerdydd |
|
|
Arholiad Cyngor Cyfieithwyr Cymru |
CCC |
Caerdydd |
|
|
Seminar Cyfieithu |
CCC |
Gregynog |
|
|
Hyfforddiant Uned San Helen |
Cyngor |
Abertawe |
|
|
Basic Life Support |
Cyngor |
Abertawe |
|
Eleri |
Hanes llafar |
Amgueddfa San Fagan |
Abertawe |
|
|
Camera Digidol |
Coleg y Drindod |
Caerfyrddin |
|
|
Hanes Abertawe |
Amgueddfa Abertawe |
Abertawe |
|
|
Gweithio yn y Gymuned |
SCVS |
Abertawe |
|
|
Sgiliau yn y Gymuned |
SCVS |
Abertawe |
|
|
Cyfranogiad Cymunedol – diethro cymdeithasol |
SCVS |
Abertawe |
|
|
Cwrs straeon digidol |
Cyngor Caerffili |
Caerffili |
|
Emma |
Sector Preifat |
Bwrdd yr Iaith/Sglein |
Aberystwyth |
Diweddaru
systemau gweinyddol
Arian Parod: Erbyn hyn, mae gwariant
arian parod yn cael ei gofnodi mewn dogfen Excel ar y cyfrifiadur. Mae’r system newydd yn sicrhau cofnod manwl a
chywir o bob gwariant ac yn sicrhau bod y sefyllfa real yn adlewyrchu’r
cofnodion ar bob cyfrif.
System gyllid
newydd Gyda’r
nifer o staff wedi cynyddu a mwy o gyllid grantiau gwahanol i’w rheoli,
cytunwyd y dylid gwella ein system o gofnodi cyllid. Cawsom gyngor trwy’r CGGA
a’i gwasanaeth gyllid cymunedol. Lluniwyd templed i ni gan swyddog gyllid y
CGGA, Siôn Eckersley, o system rheoli cyllid effeithiol sy’n cael ei defnyddio
gan y CGGA a chyfrifwyr eraill. Mae 3 cyfrif y Fenter, sef y Fenter, Cyfieithu
a Hwyl Haf bellach i gyd ar yr un ddogfen. Mae’r system newydd yn cofnodi
gwariant pob rhan o’r Fenter, yn cynnwys Treftadaeth, Cymraeg yn y Gymuned,
Prif Swyddog a 2 Swyddog Maes, Cyfieithu, Hwyl Haf a.y.b. Bydd hyn o gymorth wrth gofnodi gwariant
grantiau'r Fenter yn enwedig wrth wneud adroddiadau blynyddol.
Diolgelwch staff: Rhoddwyd
pwyslais eleni ar sicrhau diogelwch y swyddogion sy’n gweithio gyda’r Fenter
gan fod y gwaith yn gofyn am waith yn ystod oriau amghymdeithasol neu gyda’r
nos. Lluniwyd system ‘partner’ gyda swyddogion yn tecstio ar ddiwedd diwrnod
gwaith os ydynt yn gweithio gyda’r hwyr. Sefydlwyd system o fewn/mas-gofnodi yn
yr adeilad fel adnodd rhag ofn bod tân. Hefyd, cafwyd larwm diogelwch gan yr
heddlu i’w roi i ferched y swyddfa.
Ystafelloedd
Bu Swyddog Gweinyddol y Fenter yn brysur yn gweinyddu’r defnydd o ystafelloedd
Tŷ Tawe yn ystod y
flwyddyn (gw. Atodiad A)
Nawdd
Gwnathpwyd ceisiadau llwyddiannus i’r cronfeydd isod yn ystod y
flwyddyn:
|
Ffynhonnell |
Cronfa
|
Cyfanswm
|
Prosiect
|
|
Adran ddiwylliant a hamdden Cyngor |
Cynlluniau Chwarae |
£2,443 |
Cynlluniau gwyliau 05-06 |
|
Partneriaeth Plant a phobl ifanc |
Cymorth |
£7,200 |
Clybiau ieuenctid |
|
Adran gorfforaethol Cyngor |
Nawdd Cefnogi’r iaith Gymraeg |
£25,000 |
Cyfraniad y sir i gostau cynnal y Fenter fel
darparwyr gwasanaethau Cymraeg y sir |
|
Cronfa Loteri |
Arian i Bawb |
£5,000 |
Arddangosfa ar gyfer prosiect treftadaeth |
|
Bwrdd yr Iaith Gymraeg |
Grantiau cynnal |
£82,000 |
3 swyddog |
|
Cronfa Loteri |
‘Dyma dy gyfle’ |
£2,938 |
Prosiect i godi ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod
ymysg y lleiafrifoedd ethnig |
|
Cronfa BSCDF |
Cyfieithu |
£44,000 |
Nawdd i barhau a datblygu gwasanaeth Cyfieithu’r
Fenter – Menter Cyfieithu |
|
Rhwydwaith cefnogi Cymunedau’n Gyntaf |
Cronfa rhwydwaith gefnogi C yn G |
£200 |
Prosiect Eisteddfod/ lleiafrifoedd ethnig * gw.
uchod |
|
Ymddiriedolaeth TSB |
Cronfa Cymunedol TSB |
£1,200 |
Cyllid i gefnogi cylch Ti a Fi Townhill gyda
chyflogi arweinyddion a thalu am leoliad ac yswiriant |
Eraill
Atodiad A
Cofnodir enw, rhif cyswllt, nifer y mynychwyr, amser cyrraedd a gadael,
manylion bwffe, cofnod o dal a chadarnhad y bwciad. Mae’r system anfonebu yn
cael ei gadw ar y cyfrifiadur. Ar y
cyfrifiadur, mae yna gronfa wahanol ar gyfer pob mudiad sy’n llogi ystafelloedd
yn Nhŷ Tawe. Yn y cronfeydd yma mae
copïau electroneg o’r anfonebau yn cael i gadw, tra bod copi caled yn cael i
gadw yn ogystal. Mae’r sustem wedi profi i fod yn llwyddiannus ac
yn ddealladwy i bawb.
Gweler isod cyfanswm yr arian a ddaeth mewn i Dy Tawe yn ystod y
flwyddyn trwy logi ystafelloedd (nid yw hyn yn cynnwys cyfraniad Prifysgol
Cymru, Abertawe am logi ystafelloedd ddysgu).
|
Defnyddwyr |
Cyfanswm cost
ystafell |
Diod |
Bwffe |
Eraill |
|
Gwalia |
£1720 |
£403.73 |
£98 |
£10 |
|
Menter a Busnes |
£90 |
£49.43 |
£209 |
|
|
Meithrin |
£55 |
£6.75 |
|
|
|
Cymraeg Gwaith |
£210 |
|
|
|
|
Cyrenians |
£60 |
|
£85 |
|
|
Partneriaeth BEST |
£65 |
|
|
|
|
Lolfa |
£45 |
£32.77 |
|
|
|
Unison |
£15 |
£6.57 |
|
|
|
Hyfforddiant Tiwtor |
|
£32.12 |
|
|
|
Fflach |
£70 |
|
|
|
|
Partïon Preifat |
£260 |
|
|
|
|
Homeless Link |
£60 |
£7.51 |
£63 |
|
|
Cymdeithas y Swistir |
£65 |
|
|
|
|
SYHP |
£60 |
£20 |
|
|
|
Tai Hafan |
£30 |
£20 |
|
|
|
Prifysgol |
£3050 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
£5855 |
£578.88 |
£455 |
£10 |
|
Cyfanswm |
|
|
|
£6898.88 |