Proffil Iaith Abertawe
20.7.05
(heb y lluniau a’r tablau)
Mae Dinas a Sir Abertawe yn ardal ddiddorol iawn yn ieithyddol gydag ardaloedd Seisnig iawn ac ardaloedd Cymreigaidd iawn sy’n rhan o’r ‘Fro Gymraeg’. Yn ogystal â hyn mae i Abertawe ddarlun cymdeithasol lliwgar iawn, unigolion ac ardaloedd o bob dosbarth cymdeithasol, gydag ardaloedd difreintiedig iawn ond tafliad carreg o’r ardaloedd cyfoethocaf yn Abertawe.
Er cyn lleied yw maint y sir yn ddaearyddol mae ynddi ddarnau amaethyddol/gwledig, dinesig, trefol a glan mor.
Mae 7 ardal cymunedau’n gyntaf yn Abertawe sef Ward Penderi, Penlan, Bonymaen, Castell, Clase, Clydach a Townhill, felly mae talp go fawr o ran poblogaeth ac yn ddaearyddol mewn ardaloedd difreintiedig. Mae’r holl ffactorau uchod yn creu darlun cymdeithasol a darlun ieithyddol amrywiol iawn, mewn ardal mor fach gyda dwysedd poblogaeth mor uchel.
Yn ôl cyfrifiad 2001 poblogaeth Abertawe yw 223,301 o’r rheiny mae 28,938 sef 13.4% yn gallu siarad Cymraeg. Gyda 48,582 sef 22.5% gydag 1 neu fwy o sgiliau yn y Gymraeg.
O’u cymharu gydag ystadegau 1991 mae yna gynnydd bach wedi bod ymhlith siaradwyr Cymraeg yr ardal o 0.1% sef 389 o bobl. O edrych ar yr ystadegau hyn gweler fod y canrannau yn rhai bychain ond mae'r niferoedd yn sylweddol, gan roi Dinas a Sir Abertawe yn y 6ed safle o ran niferoedd siaradwyr Cymraeg ymysg siroedd Cymru.
Isod fe welir dau fap ac un graff sy’n dangos canrannau a niferoedd siaradwyr Cymraeg. Fel y gwelir bod yna amrywiaeth eang o ganrannau a niferoedd yn y sir o 6% yn ambell i le lan at dros 40% mewn llefydd arall. Mae’r mwyafrif o ardaloedd Dinas a Sir Abertawe gyda rhwng 10% ac 20% o siaradwyr Cymraeg.
Felly pa fath o ddarpariaeth sydd ar gyfer y boblogaeth yma, a pha ymdrechion sy’n cael ei wneud i godi’r niferoedd ar draws Dinas a Sir Abertawe.
Mudiad
Ysgolion Meithrin
Mae yna nifer o gylchoedd meithrin a chylchoedd Ti a Fi yn Abertawe sy’n darparu gofal plant ac addysg i blant ifanc iawn: mae yn 12 cylch meithrin a 14 cylch Ti a Fi.
Mae yna gyrff a mudiadau arall sy’n cynnig cyfleoedd a gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Menter
Iaith Abertawe
Mae Menter Iaith Abertawe ei hun yn un amlwg gweler yr amserlen wythnosol isod, sydd ddim yn cynnwys y cyfleoedd gwaith wythnosol a rhoi’r i ieuenctid hyn yr ardal 16-19 i weithio yn y 5 aelwyd wythnosol, ac wrth gwrs y cyfleoedd hyfforddiant. Nac ychwaith yn nodi'r ddarpariaeth a ddarperir yn ystod y gwyliau sef 8 wythnos yn ystod y flwyddyn o glybiau chwarae mewn amryw o leoliadau ar draws Abertawe, gyda’r nod o ddarparu cyfleoedd chwarae i blant yr ardal trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod cyfnod y gwyliau lle nad yw’r mwyafrif y plant yn clywed gair o Gymraeg gan eu bod yn dod o deuluoedd Di-Gymraeg. Trefnir hefyd weithgareddau achlysurol ar gyfer ieuenctid hyn yr ardal megis gweithdai syrffio cyfrwng Cymraeg trwy gydol y flwyddyn, dripiau i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored cyfrwng Cymraeg sy’n aml yn cynnwys gwersylla dros nos. Cyfle i wneud rhannau o wobr Dug Caeredin trwy’r Fenter Iaith a’u hysgolion. Trefnir twrnameintiau pêl droed 5 yr ochr.
Yn fisol trefnir gigs Cymraeg yng nghanol y ddinas gyda nifer o ddisgyblion hyn y chweched dosbarth yn mynychu. O ganlyniad i hyn a gweledigaeth ambell i athro yn Ysgol Gyfun Gwyr mae’r chweched wedi penderfynu sefydlu GYTS, sef rhyw fath o Fenter Iaith yn yr ysgol, sy’n ddatblygiad cyffrous iawn.
Mae gan ieuenctid yr ardal fforwm i drafod materion yn enw pwyllgor ieuenctid Menter Iaith Abertawe, ond am y tro mae’r pwyllgor hwn wedi uno gyda phwyllgor ieuenctid yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fe fydd yn dychwelyd i’w ffurf wreiddiol ar ôl ymadawiad yr Eisteddfod yn 2006.
Urdd
Gobaith Cymru
Hefyd mae yna bresenoldeb amlwg gydag Urdd
Gobaith Cymru yn yr ardal sy’n cynnig gweithgareddau i’r ieuenctid, nid yn unig
cystadlu yn yr Eisteddfod ond hefyd y teithiau bythgofiadwy hynny i lefydd fel
Mae nifer o glybiau ieuenctid yn yr ardal ond yn gweithredu trwy gyfrwng y Saesneg. Mae cangen o Ffermwyr Ifanc yn y Gwŷr ond eto yn gweithredu trwy gyfrwng y Saesneg. Gwelir uchod taw’r Fenter a’r Urdd yw’r unig ddarparwyr o ran cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i ieuenctid y sir.
Tŷ
Tawe
O ran oedolion mae Tŷ Tawe yn trefnu amryw o nosweithiau cymdeithasol achlysurol. Mae yna gôr Cymraeg yn bodoli hefyd sy’n cynnig profiadau gwych i lawer o oedolion.
Merched
y Wawr
Yn ogystal â hyn mae yna nifer helaeth o ganghennau Merched y Wawr ar draws y sir:-
a) Abertawe
b) Clydach
c)Gorseinon
ch) Lon Las
d) Pontarddulais
dd)Treboeth
e)Treforys
ADDYSG
GYMRAEG
Mae’r cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ifanc yn deillio yn bennaf o lwyddiant addysg Gymraeg yn y sir. Mae yna 10 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y sir, i ddilyn mae niferoedd yr ysgolion hynny.
Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago ym Mhontarddulais:- 225
Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn-y-Mor yn Brynmill:- 317
Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre:- 19
Ysgol Gynradd Gymraeg Garnswllt:- 13
Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen yng Nghlydach:- 220
Ysgol Gynradd Gymraeg Lon Las yn Llansamlet:- 420
Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin yn Gorseinon:- 263
Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw:- 372
Ysgol Gynradd Gymraeg Login Fach:- 220
*Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw yn West Cross :- 80
Mae yna ddwy ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y sir.
Ysgol Gyfun Gwyr yn Nhregwyr:- 832
*Ysgol Uwchradd Bryntawe ym Mhenlan:- 350
*Ysgolion newydd yw’r rhain sydd yn llanw yn flynyddol.
Mae 3,330 o blant Dinas a Sir Abertawe yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Mewn cymhariaeth a’r ysgolion Cymraeg mae yna 61 o ysgolion Cynradd ac 13 ysgol uwchradd Saesneg.
Gweler y tabl isod am ystadegau'r ysgolion uwchradd Saesneg. Mae dros 14,000 o ddisgyblion yn yr ysgolion uwchradd yn unig.
Poblogaeth 3-15 oed Abertawe yw 42,286. Dim ond tua 3,500 o’r rheiny sydd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Isod gwelir niferoedd ysgolion uwchradd Saesneg a lle bo modd y niferoedd sydd wedi dewis Cymraeg fel pwnc.
Cymraeg
i Oedolion
Mae nifer o ddosbarthiadau Cymraeg yn digwydd ar draws y sir, rhai wedi’i drefnu gan Brifysgol Cymru Abertawe, rhai gan goleg Abertawe.
Mae oddeutu 800 o unigolion yn mynychu gwersi Cymraeg yma.
Mae yna griw o CYD yn cwrdd yn wythnosol yn Nhŷ Tawe i ymarfer eu Cymraeg. Hefyd mae’r Fenter a Thŷ Tawe yn agor y caffi yn wythnosol er mwyn ceisio pontio rhwng dysgwyr a siaradwyr Cymraeg.
I ddilyn mae rhaglenni gwersi Cymraeg yn ardal Abertawe
Papur
Bro
Yn Abertawe mae gennym bapur bro ‘Wilia’ sy’n cael ei gyhoeddi bron yn fisol, gweler copi yn amgaeedig, ac y mae yna bapurau bro Cymraeg arall yn bellach i fyny’r cwm. Yr unig orsaf radio lleol sy’n darlledu rhywfaint yn y Gymraeg yw Sain Abertawe Swansea Sound, mae tua 260,000 yn gwrando ar yr orsaf ac mae 4 slot Cymraeg yn cael eu darlledu’n wythnosol, dau am 7 o’r gloch yng nghanol yr wythnos a dau ar ddydd Sul.
Mae’r proffil hwn yn bell o fod yn gyflawn ond mae’n ddechrau ar y broses o lunio proffil iaith drylwyr, er mwyn deall natur ieithyddol Dinas a Sir Abertawe, gan ein galluogi i dargedu ein hadnoddau i’r llefydd a'r meysydd hanfodol hynny.