Sefydlwyd Menter Iaith Abertawe yn 2001, gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn Ninas a Sir Abertawe. Ein datganiad cenhadaeth yw:
“Hwyluso cyfleoedd i bobl sir Abertawe fyw trwy gyfrwng y Gymraeg ac i fwynhau diwylliant Cymraeg yn eu bywydau bob dydd”.
Gwneir hyn drwy’r amcanion canlynol:
- Datblygu cyfleoedd i blant a phobl ifanc sir Abertawe i ddefnyddio’r Gymraeg
- Datblygu cyfleoedd i oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn sir Abertawe ddatblygu a defnyddio eu Cymraeg a bod gwybodaeth am gyfleoedd dysgu Cymraeg ar gael
- Datblygu gallu’r sector gwirfoddol, preifat a statudol yn Abertawe i ddefnyddio’r iaith Gymraeg;
- Cynnig cyfleoedd i bobl sir Abertawe ddefnyddio’r iaith Gymraeg drwy godi ymwybyddiaeth a marchnata’r cyfleoedd hyn
Tŷ Tawe
Sefydlwyd Canolfan Gymraeg Tŷ Tawe ym 1987, a chaiff ei rhedeg gan Gymdeithas Tŷ Tawe.
Mae Tŷ Tawe yn cynnig: ystafelloedd dysgu ar gyfer gwersi Cymraeg; ystafelloedd cyfarfod; neuadd digwyddiadau; caffi; siop Gymraeg Siop Tŷ Tawe a swyddfeydd i Fenter Iaith Abertawe.
Cyfleoedd i Wirfoddoli
Hoffech chi wirfoddoli gyda Menter Iaith Abertawe?
Rydym yn chwilio am unigolion cyfeillgar, brwdfrydig a chyfrifol i wirfoddoli mewn amrywiaeth o wahanol weithgareddau, gan gynnwys: Siop Ty Tawe, sesiynau Canu gyda Babi, boreau coffi, clybiau ieuenctid a mwy.
Cwblhewch y ffurflen isod a’i hanfon at swyddfa@menterbertawe.org neu Menter Iaith Abertawe, Tŷ Tawe, Stryd Christina, Abertawe. SA1 4EW
Ffurflen Gwirfoddolwyr Ffurflen GwirfoddolwyrAm fwy o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli, cysylltwch â Dean Baker ar 01792 460906