Pwrpas y rhaglenni Radio yma yw rhoi cyfle i bobl sy’n dysgu Cymraeg i wrando ar gerddoriaeth a newyddion sy’n berthnasol i siaradwyr Cymraeg ac i Ddysgwyr.
Cyflwynydd Radio D yw Alan Baker sy’n dod o Aberhonddu ac wedi dysgu Cymraeg yn Abertawe. Mae Alan yn cymdeithasu a gwirfoddoli yn Nhŷ Tawe ac yn arbenigwr ar y Sîn Roc Gymraeg.
Radio cymunedol yw hon, os oes gennych ddiddordeb i ymuno â thîm Radio D, cysylltwch gyda eleri@menterabertawe.cymru.
Darlledir Radio D yn Fisol ar Cymru FM, ar nos Wener olaf y mis.
I wrando'n fyw ewch i http://cymru.fm/
Ail-wrando i Radio D
I Wrando eto ar unrhyw un o rhaglenni Radio D, dilynwch y linciau isod.
Radio D Mai 2020
Radio D Ebrill 2020 - Rhifyn Corona: Cerddoriaeth Newydd a'r Goreuon o Gyfweliadau Radio D
Radio D Chwefror 2020
Radio D Rhagfyr 2019
Radio D Hydref 2019
Radio D Medi Rhifyn Ychwanegol! 2019
Radio D Medi 2019 - Alan a Meinir ar Radio Cymru, Gwilym Bowen Rhys ac Elen Cyw S4C! 2019
Radio D Gorffennaf 2019
Radio D Mehefin
Radio D Mai 2019
Radio D Mis Mai - Cyfweliad gyda Delyth Jenkins (DnA a Pendevig)
Radio D Mis Ebrill - Cyfweliad gydag Eady Crawford a Rhodri
Radio D Mis Mawrth - Cyfweliad gyda Bronwen Lewis
Radio D Mis Chwefror - Y Mabinogi a'r Newyddion
Radio D Mis Ionawr - Cyfweliad gyda Cleif Harpwood
Radio D Mis Rhagfyr 2017
Radio D Mis Tachwedd 2017 - Y Mabinogi a mwy!
Radio D Mis Hydref 2017 - Mis Merched Cymru!
Radio D Mis Awst 2017 - Yn yr Eisteddfod!
Radio D Mis Gorffennaf 2017 - Parti Ponty
Radio D Mis Mehefin 2017
Radio D Mis Mai 2017
Radio D Mis Ebrill 2017
Radio D Mis Mawrth 2017
Radio D Mis Chwefror 2017
Radio D Mis Ionawr 2017
Radio D Mis Tachwedd 2016
Radio D Mis Hydref 2016
Radio D Mis Medi 2016
Radio D Mis Mehefin 2016
Radio D Mis Gorffennaf 2016
Radio D Mis Awst 2016
I helpu chi i ddysgu geiriau caneuon rhaglen Radio D 10/06/16, mae geiriau pob cân ar y dudalen hon i chi.
Geiriau Caneuon Rhaglen 1
Heno yn y Lion gan Al Lewis Band
Cloi y swyddfa
Mynd am adref
A mae sŵn y dre'n mudferwi
Peli golau ary mastiau
Yn ein denu at dafarnau
Ar ei stôl ma Steve
Yn nyrsio Port 8 Brandy
A ma Sian ar ôl dyn - di'm yn fussy
Heno yn y Lion
Y mae'r dref i gyd mor lion eu byd
Yn gwenu drwy eu gwydrau gwag
Ar rhyw nos wener hud
Criw oferched
Yn ei sodlau
Yn creu tanllwyth mawr o fagiau
A'r hen Dafydd ar y Wisgi
Gyda'i dei yn gam a'i wraig yn flin
A ma'rtri gŵr doeth
Yn eu capiau wrth yr aelwyd
Yn rhoi'r byd yn ei le
Heb ddweud dim byd
Ac mae'r barman John
Yn casglu gwydrau gweigion
ond ma rhai yn llawn am y noson
Gweddi Cariad gan Elin Fflur
Welias i eriod mo'r haul yn gwenu
Nes i mi gau fy llygaid oer
A chlywais i mo'th lais yn canu
Nes y distawodd sêr fy lloer
A welais i mo'r darlun cyfan
Nes i to olchi'r paent i ffwrdd
Gweddi cariad
Dyma'r eiliad
Clyw yr erfyn tawel, y mae ffydd yn llenwi'm mêr
Gweddi cariad
Teimla'r curiad
Diffodd oes o aros a rho olau yn fy sêr
Glywais i eriod fy mron yn curo
Nes oedd dy enaid o fewn clyw
A deimlais i mo wres fy nghartref
Nes bod i ffwrdd rhy hir yn byw
A wyddwn ddim mod i dy eisiau
Nes oeddwn gaeth mewn cwlwm tynn
Gweddi cariad
Dyma'r eiliad
Clyw yr erfyn tawel, y mae ffydd yn llenwi' mêr
Gweddi cariad
Teimla'r curiad
Diffodd oes o aros a rho olau yn fy sêr
A nes i'm dweus mod i'n dy garu
Nes i mi angen cân fel hyn
Gweddi cariad
Dyma'r eiliad
Clyw yr erfyn tawel, y mae ffydd yn llenwi' mêr
Gweddi cariad
Teimla'r curiad
Diffodd oes o aros a rho olau yn fy sêr
Paid â Deud gan Gildas
Os yw'th galon bron â thorri
Paid â deud
Am fod serch dy fron yn oeri
Paid â deud
Ac os chwalu mae d'obeithion
Paid â deud
Ni ddaw neb i drwslo'th galon
Paid â deud
Pan fo stormydd byd yn gwgu
Paid â deud
A gelynion yn dy faeddu
Paid â deud
Ac os weithiau byddi'n llwyddo
Paid â deud
Hawdd i'th lwydd fynd trwy dy ddwylo
Paid â deud